Visit Cardigan

Traethau

Cardigan Tide Tables

Traethau o gwmpas AberteifiCwmtydu Traeth

Cwmtydu TraethMae Cwmtydu, a oedd unwaith yn gildraeth smyglwyr, yn gorwedd i’r de orllewin o Gei Newydd. Traeth o raean bras yw hwn yn bennaf gydag ardal dywod sy’n dod i’r golwg pan fydd y llanw ar drai. O arfer gofal a pharch dyladwy, mae’r cildraeth yn gymharol ddiogel ar gyfer gwahanol chwaraeon dŵr fel hwylfyrddio, syrffio, canŵio a hwylio. Gellir mynd â chŵn ar hyd y traeth drwy’r flwyddyn. Mae’r ardal yn enwog ymhlith y trigolion lleol fel lle da i weld dolffiniaid a morloi: ond os na fydd golwg o’r creaduriaid hyn, wnaiff yr haul yn machlud mo’ch siomi.

Traeth Llangrannog

Llangrannog-Beach-01

Traeth LlangrannogCeir golygfa fythgofiawy ar hyd yr arfordir o Langrannog ac mae yma ddau draeth tywodlyd – y prif draeth a thraeth cyfagos Cilborth [llun ar y brig] sy’n gorwedd mewn cildraeth cuddiedig. Bu Llangrannog yn gyrchfan poblogaidd i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd ers cyn cof. Unwaith y byddwch wedi croesi llwybrau dyffryn serthochrog Afon Hawen, mae’n hawdd mynd yn eich blaen. Mae yma faes parcio ar lan y môr ac yn ystod misoedd yr haf ceir cyfleusterau parcio ychwanegol – taith 5 munud ar droed o’r prif draeth. Mae’r bae yn ddiogel ond rhaid bod yn ofalus wrth ymwneud ag unrhyw weithgaredd glan môr.

Does dim hawl mynd â chŵn ar y traeth o fis Mai hyd fis Medi ond gall gweddill y teulu fwynhau diwrnod i’r brenin yn Llangrannog ac mae yma siop draeth a chaffi sy’n llawn dop o nwyddau.

Traeth Penbryn

Traeth PenbrynMae angen cynllunio ymlaen llaw ar gyfer treulio diwrnod ym Mhenbryn ond does dim amheuaeth ei fod yn werth yr ymdrech ychwanegol. Mae’r maes parcio a’r cyfleusterau wedi’u lleoli tua 400 metr o’r traeth! Ond mae yna gylch troi a man gollwng teithwyr wrth ymyl y traeth. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar Benbryn. Mae’r traeth, sydd bron filltir o hyd, yn gwbl ddigyffwrdd ac mae’r tywod mân, euraid a’r dŵr bas yn ei wneud yn lle perffaith i blant. Gallwch fynd ati i archwilio dirgelion y pyllau trai neu mae yma sawl taith gerdded hyfryd i’w cael – taith drwy goedwig o’r maes parcio i’r traeth neu mae modd cerdded i Dresaith pan fydd y llanw’n isel. Mae’r ardal gyfagos yn gyrchfan i adar arfordirol ac adar coetir tra bod y môr yn gartref i Ddolffiniaid, Llamhidyddion a Morloi.

Traeth Tresaith

Traeth TresaithEnwyd Tresaith ar ôl yr Afon Saith, sy’n rhaeadru dros y clogwyni i draeth Tresaith. Mae’r rhaeadr yn nodwedd arfordirol anarferol ac mae hynny’n unig yn sicrhau bod Tresaith yn rhywle sy’n rhaid ymweld ag e – ond mae llawer iawn mwy i’r bae tywodlyd, cysgodol bychan hwn. Mae’r traeth glân, melyn yn peri bod y lle yn boblogaidd gyda theuluoedd; mae’n gymharol ddiogel i nofio yma a gall y rhaid sy’n dwli ar y dŵr fwynhau’r môr a bod yn dawel eu meddwl bod Achubwr Bywyd ar ddyletswydd wrth law. Ar ôl treulio diwrnod dioglyd ar y traeth, gall tafarn y ‘Ship’ baratoi gwydraid o rywbeth oer ar eich cyfer wrth i chi wylio’r haul yn machlud yn ei holl ogoniant dros Fae Ceredigion. Mae mwy o fanylion ar gael yn ‘The Good Beach Guide’.

Traeth Aberporth

Traeth AberporthDyma fangre lle cewch chi’r gorau o ddau fyd – traeth sydd wedi ennill gwobr baner las gyda safon y dŵr yn ardderchog, a lle i’w fwynhau gyda’ch ci! Mae Maes Parcio, toiledau a lluniaeth i gyd o fewn cyrraedd i’r traeth. Caiff nofwyr a morwyr fel ei gilydd eu denu i Aberporth ac mae eu diogelwch yn saff yn nwylo’r Achubwyr Bywyd. Dyma gyrchfan poblogaidd os hoffech fynd ar wibdaith diwrnod.

Traeth y Mwnt

MwntDyma i chi dlws arall yng nghist drysorau arfordir Bae Ceredigion! Mae pentir Mwnt, sy’n edrych dros draeth tywod bychan, diarffordd, yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Oherwydd natur y dirwedd, nid yw Mwnt yn lle hawdd ei gyrraedd. Does dim modd osgoi’r llethr hir a serth a’r grisiau sy’n arwain i’r traeth. Mae yma faes parcio mawr, ciosg sy’n gwerthu lluniaeth a thoiledau. Heblaw am bleserau’r traeth, gallwch fynd am nifer o deithiau cerdded byr ar hyd pen y graig. Oherwydd ei stôr o hanes, sy’n cynnwys eglwys sy’n dyddio o’r bymthegfed ganrif, mae Mwnt, heb unrhyw amheuaeth, yn lle arbennig iawn. Adlewyrchir hyn yn ei statws Arfordir Gwyrdd (Green Coast). Golyga hyn bod yr ardal yn cael ei chydnabod am safon y dŵr heb yr angen am ddatblygu amhriodol fyddai’n difetha harddwch naturiol y lle ac yn niweidio’r bywyd gwyllt.

Traeth Poppit

Traeth PoppitPoppit, heb amheuaeth, yw un o draethau mwyaf poblogaidd yr ardal. Mae’n llain fendigedig o dywod gyda thwyni tywod yn gefn iddi. Mae’r ymwelwyr niferus sy’n dod yma yn dwli ar y lle, a hynny am bob math o resymau. Er gwaethaf ei boblogrwydd, nid yw traeth Poppit fyth yn ymddangos yn orlawn. Ar un ochr i’r traeth ceir gwaharddiad rhannol ar fynd â chŵn ar y traeth. Mae’r caffi’n brysur ar bob adeg, a hyd yn oed ar ddiwrnodau oer a thywyll y gaeaf mae’r lle yn aml ar agor. Drws nesaf i brif orsaf y Bad Achub, fe welwch siop fach hynod ddiddorol sy’n eiddo i’r RNLI.

Mae llanwau a cherhyntau anrhagweladwy Poppit yn gallu troi’r hyn sy’n ymddangos yn ddim mwy nag ardal arfordirol syml yn lle peryglus iawn ar adegau. Yn ffodus, ceir yma gyfleusterau Achubwyr Bywyd ardderchog; mae baneri rhybuddio’n hofran a gallwch ofyn am gyngor os bydd angen. Mae traeth Poppit yn falch o’i Faner Las.

Bae a Thraeth Ceibwr

CeibwrMae Ceibwr yn enwog am ei harddwch digyffwrdd. Cildraeth creigiog diarffordd sydd yma ac mae’n lle cwbl gyfareddol. Traeth bychan iawn o garegos a chreigiau yw Ceibwr a bydd yn cael ei orchuddio’n gyfan gwbl pan fydd y llanw i mewn. Nid yw’n lle da i nofio ond dod yma i weld yr ogofâu a ffurfiant y graig ac i brofi’r llonyddwch y bydd pobl. Mae Morloi Llwyd i’w gweld yma’n aml wrth ymyl y lan ac mae adar yr arfordir yn heidio yma yn eu cannoedd. Rhaid gyrru’n ofalus ar hyd y ffyrdd sy’n arwain i’r traeth. Does dim cyfleusterau i’w cael yma. Mae nifer y lleoedd parcio wrth ymyl y ffordd yn gyfyngedig.

Traeth Tywod Trefdraeth

Traeth Tywod TrefdraethTraeth gwastad, tywodlyd gyda thwyni o’i ôl. Mae’n hawdd cyrraedd yma. Mae’r maes parcio yn eithaf helaeth ac yn ystod yr haf mae yma giosg sy’n gwerthu lluniaeth. Caniateir cŵn ar y traeth, felly os byddwch chi’n dod â’ch ‘ffrind gorau’, cofiwch fod yn ystyriol o eraill, os gwelwch yn dda drwy wneud yr hyn sy’n angenrheidiol! Mae’r traeth yn lle diogel i nofio ac ar gyfer chwaraeon dŵr ac mae Achubwr Bywyd ar ddyletswydd rhwng 10 o’r gloch y bore a 6 yr hwyr yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst. Er bod y traeth hwn, heb unrhyw amheuaeth, yn lle poblogaidd, nid yw’r lle byth braidd yn mynd yn anghyfforddus o lawn..

Traeth Parrog, Trefdraeth (yngenir ‘Tydrath’)

Traeth ParrogAber Afon Nyfer yw’r hyn sy’n gwahanu traeth Parrog, Trefdraeth oddi wrth Draeth Tywod Trefdraeth. Mae’r Aber ei hun yn gyrchfan poblogaidd i adar y môr a rhydwyr. Cadwch eich llygaid ar agor am Grehyrod wrth y Bont Haearn. Mae Caffi/Bwyty rhagorol – ‘Morawelon’ wrth ymyl traeth Parrog. Mae i’r ardal hanes cyfoethog o adeiladu llongau ac mae ceisio darganfod tystiolaeth o orffennol y lle yn gallu bod yn weithgaredd difyr iawn. Dyma le ardderchog i fynd am dro ar hyd yr arfordir, gyda neu heb y ci. Nid yw’r traeth yma mewn gwirionedd yn addas ar gyfer nofio oherwydd nad oes modd rhagweld y cerhyntau. Ceir toiledau a lle parcio digonol ar Draeth Parrog.