Visit Cardigan

Gwylio

Mae’r arfordir fel cyfanwaith yn amrywio’n fawr, o’r systemau twyni tywod yn Nhrefdraeth, Poppit a Gwbert i draethau anwastad a chreigiog Penrhyn Cemaes, Ynys Aberteifi, Mwnt a Llangrannog, heb sôn am aberoedd Afon Nyfer ac Afon Teifi. A dyna chi wedyn y lliaws o ddyffrynnoedd coediog sy’n dirgrynu yn y gwanwyn a’r haf i gân adar.

Glas y dorlanMae unrhyw fan yn yr ardal yn dda mewn gwirionedd, nid yn unig am adar ond hefyd am olygfeydd trawiadol iawn. Mae cynnwys yr holl leoliadau da hyn felly yn amhosib yn yr arweiniad byr hwn (os hoffech wybodaeth fanylach, darllenwch y llyfr, “Birding in Pembrokeshire” gan Green & Roberts – ISBN 095421451X).

Os ydych yn chwilio am rywogaethau arfordirol fel y Frân Goesgoch (Chough), y Cudyll Glas (Peregrine), Clep y Garreg (Stone Chat) ac adar y môr, yna ewch i Mwnt neu i Langrannog. Os mai adar hirgoes (rhydwyr) sy’n mynd â’ch bryd, yna ewch i aberoedd afon Nyfer ac afon Teifi, ac os mai adar hela yw’ch diddordeb, yna aber afon Teifi neu Gorsydd y Teifi amdani. Ond os hoffewch weld adar dirifedi, yna does unman yn well na’r hen goedwigoedd – ewch am sgowt i ddyffryn Teifi, rhwng Corsydd y Teifi a Llechryd.

Mae Llwybr Afon Teifi yn ffordd ardderchog i ddarganfod bywyd gwyllt Aberteifi

Cliciwch ar fawdlun ar gyfer delwedd fwy ac enw’r aderyn

1. Bae Trefdraeth / Aber Afon Nyfer

Mae’r Afon Nyfer yn llifo i’r môr yn Nhrefdraeth, gan greu aber bychan tywodlyd. Mae llwybrau troed ar y naill ochr a’r llall i’r aber, sy’n gwneud yr ardal hon yn hawdd ei thramwyo. Mae’r safle hwn, serch hynny, yn dioddef cryn dipyn o aflonyddwch, yn arbennig yn ystod y cyfnodau brig adeg gwyliau.

Mynediad Parcio Parrog Awgrymiadau ar gyfer Adara / Adar Allweddo
(SN053396) Y “bont haearn” ar y ffordd i’r cwrs golff. Adegau gorau i ymweld: Drwy’r flwyddyn. Os am weld adar hirgoes, ewch yno pan fydd y llanw ar ei hanner neu ar drai Mae mwyafrif yr adar yn tueddu ymgynnull i gyfeiriad y bont haearn ond weithiau cewch olygfa well drwy gerdded am ryw ychydig oddi yno ar hyd y llwybr troed. Mae hyd at 100 o Chwiwellau (Wigeon), 50 o Gorhwyaid (Teal), 50 o Bïod y Môr (Oystercatchers), 150 o Ylfinod (Curlew) a 15 o Bibyddion Coesgoch (Redshanks) yn gaeafu yn yr aber. Ymhlith y rhywogaethau eraill sydd i’w gweld yn aml mae’r Crëyr (Heron), y Crëyr Bach Copog (Little Egret) a Glas y dorlan (Kingfisher) – sydd i’w gweld orau o ben y bont haearn; edrychwch i gyfeiriad y torlannau caregog i fyny’r afon yn y gaeaf). Mae taith fudo’r adar hirgoes yn ystod y gwanwyn a’r hydref yn peri bod y fan hon yn werth ymweld â hi i gael sgowt. Gwelwyd Cwtiaid Caint (Kentish Plovers) yma yn ystod y gwanwyn a Phibyddion Bach (Little Stints) a Chorbibyddion (Curlew Sandpipers) yn yr hydref. Yn y gaeaf, os edrychwch am Bibydd y Waun (Pipit), efallai y cewch gip ar Bibydd y Dŵr (Water Pipit).

2. Afon Teifi

Ffin ogleddol Sir Benfro, a Cheredigion a Sir Gaerfyrddin mewn rhai mannau yw Afon Teifi. Mae llawer o’r mannau gorau ar gyfer gweld adar yn gorwedd ar y naill ochr neu’r llall i’r llinell ddychmygol hon.

Awgrymiadau ar gyfer Adara / Adar Allweddol
a) Ceunant Cilgerran (SN197429) – trowch i lawr ar hyd y lôn fechan wrth ymyl Swyddfa’r Post yng Nghilgerran. Parciwch wrth yr afon a cherddwch i’r naill gyfeiriad neu’r llall (i’r chwith, ¼ milltir yn unig, neu i’r dde, tua 2 filltir i Bont Llechryd). Mae hwn yn lle da i weld Glas y dorlan (Kingfisher) yn ogystal â’r Dyfrgi (Otter). Mae’r rhywogaethau arferol i’w gweld yn y goedwig, ac yn eu plith fe welwch y Gwybedwyr Brith (Pied Flycatchers), Tingochiaid (Redstarts) a Chnocellau Brith Mwyaf a Lleiaf (Greater and Lesser Spotted Woodpeckers)
b) Pont Llechryd (SN217436) – parciwch ar ochr sir Benfro, drws nesaf i fynedfa Castell Malgwyn Os edrychwch dros y bont, dylech weld y Siglen Lwyd (Grey Wagtail), Bach y Dŵr (Dipper) efallai, ac os ydych chi’n lwcus iawn, y Dyfrgi. Yn y gorffennol, gwelwyd Gwybedwyr Brith (Pied Flycatchers), y Tingoch (Redstarts) a Chnocellau Brith Lleiaf (Lesser Spotted Woodpeckers) yn y goedwig fechan wasgaredig.
c) Cenarth (SN269 416) – parciwch ar ochr Ceredigion i’r afon yn y maes parcio a thalu, neu yn y maes parcio am ddim sydd ar yr ochr ddeheuol (sir Gaerfyrddin). Cerddwch i fyny wrth ymyl y rhaeadr, ar yr ochr ogleddol (Ceredigion). Gallwch fod bron yn siŵr o weld Bach y Dŵr (Dipper) a Siglennod Llwyd (Grey Wagtails) yma. Yn yr haf, mae’r coetir yn gyrchfan i’r ymwelwyr haf arferol, yn ogystal â’r Tingoch (Redstart) a’r Gwybedwr Brith (Pied Flycatcher).
d) Castellnewydd Emlyn – parciwch ym maes parcio’r dref wrth ymyl y Mart Anifeiliaid neu y tu ôl i gloc y dref. Mae’r daith gerdded sydd wrth ymyl yr afon, y tu cefn i adfeilion y castell (SN312407), yn un ddymunol iawn. Gallwch weld Glas y dorlan (Kingfisher), Bach y Dŵr (Dipper), Siglennod Llwyd (Grey Wagtails) a lliaws o Wyddau Canada (Canadian Geese) gwyllt yn y fan hon. Gall fod yma Hwyaid Danheddog (Goosander) hefyd yn y gaeaf.

3. Aber Afon Teifi

Yn anffodus, mae cryn dipyn o aflonyddwch ar yr aber ac felly ni fydd adar hirgoes yn aros yma am hir. Fel y gwelwch wrth y disgrifiadau isod, mae yma nifer o safleoedd allweddol:

Golygfannau a’r Amserau Gorau i Ymweld Awgrymiadau ar gyfer Adara / Adar Allweddol
Y tu ôl i Jewsons – pan fydd yn hanner llanw neu pan fydd y llanw ar drai (SN166460) Llithrfa Llandudoch – hanner llanw neu lanw ar drai (SN164467) Webley – Penllanw (SN158479) Patch – Penllanw (SN160 Adar rhydio ar daith ac yn gaeafu; ychydig iawn yn yr haf. Mae Jewsons yn lle da ar gyfer gweld Pibyddion y Traeth (Common Sandpipers), Pibyddion Coesgoch (Redshank) a’r Coegylfinir (Whimbrel) sy’n gaeafu ac yn aros yno wrth fudo. Llithrfa Llandudoch yw’r lle gorau i weld y gwahanol wylanod; mae rhai’r Canolfor yn gymharol gyffredin fesul un neu ddau. Mae’r Wylan Fechan, Gwylan Glaucous a Gwylan Gwlad yr Iâ hefyd wedi eu gweld o’r fan hon. Edrychwch ar hyd y lan bellaf am adar hirgoes a’r Crëyr Bach Copog (Little Egret). Y tafod tywod gyferbyn â thafarn y Webley yw man clwydo’r adar hirgoes mwyaf – Pioden y Môr (Oystercatcher), y Gylfinir (Curlew), Cyffylog y Môr (Godwit) a’r Pibydd (Knot) – adeg penllanw. Gyferbyn â’r Webley ar y lan ogleddol, tu hwnt i’r maes carafannau / clwb cychod – dyma ble mae’r adar rhydio lleiaf yn ymgasglu – Llwyd y Tywod (Dunlin), Hutan y Tywod (Sanderling), Ehedydd y Môr (Ringed Plover) ac yn yr hydref, y Pibydd Bach (Little Stint) a’r Gylfinir Bach (Curlew Sandpiper).

4. Corsydd Teifi – Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru

Corsydd Teifi yw un o’r prif warchodfeydd sy’n eiddo i ac yn cael eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (rhif teleffon 01239 621600). Rhennir y gors yn ddwy gan yr hen reilffordd rhwng Aberteifi a’r Hendy-gwyn sydd wedi bod yn segur ers yr 1950au (1963 rwy’n credu; un o doriadau Beeching). Mae taith gerdded gylchol yn arwain o amgylch y corsydd (Llwybr y Dyfrgi) ac yma fe welwch 6 chuddfan a dwy daith arall drwy goedwig, gydag un ohonynt yn arwain i fyny’r ceunant i Gilgerran.

Awgrymiadau ar gyfer Adara/Adar Allweddol
Mae lle parcio ym maes parcio’r Ganolfan Ymwelwyr ar ochr ddeheuol y warchodfa (SN186448). Dilynwch yr arwyddion allan o Aberteifi tuag at Gilgerran. Wrth ddod i mewn i’r pentref, trowch i’r chwith i gael mynediad i Warchodfa Corsydd Teifi ar hyd yr hen reilffordd. Cadwch eich llygaid ar agor am geirw Sika yn y caeau ar y dde. Mae yna fynediad hefyd i gerddwyr neu feicwyr o Aberteifi, ar hyd llwybr glan yr afon o Hen Bont Aberteifi. Mae siop anrhegion a chaffi yn y Ganolfan Groeso i Ymwelwyr sydd yn y warchodfa. Amserau Gorau i Ymweld: Drwy’r flwyddyn ond yn gynnar yn y bore neu’n hwyr yn y prynhawn os yn bosib. Mae canol dydd yn yr haf yn gyfnod tawel o safbwynt gweld adar Mae Llwybr y Dyfrgi yn cymryd rhyw 1½ awr i’w gerdded, ac mae’n arwain o’r Ganolfan / maes parcio ar hyd yr hen reilffordd. Mae’r gors yn gartref i Deloriaid Cetti (Cetti’s Warblers) a bydd hyd at 30 o Regennod y Dŵr (Water Rails) yn gaeafu yno. Efallai y byddwch chi’n lwcus iawn ac yn cael cipolwg ar Aderyn y Bwn (Bittern). Yn yr haf, mae sawl pâr o Deloriaid y Gors (Reed Warblers) a Theloriaid yr Hesg (Sedge Warblers) yn bridio yn y gwelyau cyrs yn ogystal â niferoedd da o Benddu’r Gors (Reed Buntings). Edrychwch yn y Cuddfannau “Cilfach” a “Glas y dorlan” am hwyaid, Glas y dorlan a Thelor Cetti (Cetti’s Warbler), Cuddfan “Y Gylfinir” am y Crëyr (Heron), y Gylfinir (Curlew) a gwylanod mwy o faint. Mae Cuddfan “Y Crëyr neu Pentwd” yn lle da i weld Corhwyaid (Teal), Chwiwellau (Wigeon), Crehyrod (Heron), y Pibydd Gwyrdd (Green Sandpiper) a’r Pibydd Coeswerdd (‘Shanks’ ) ac mae golygfa dda o’r fan hon ar draws y gors gyfan. Oddi yma, weithiau, fe welwch Hebogiaid yr Hesg (Marsh Harriers) yn hedfan ar eu taith. Mae gan y warchodfa nifer o fannau da lle gallwch wylio Dyfrgwn. Maen nhw i’w gweld fel arfer pan fydd y llanw ar drai, ac wrth iddi nosi neu’n gynnar yn y bore. Mae Llwybr Ceunant Afon Teifi yn dilyn hynt Afon Teifi i Gilgerran, gyda glan yr afon i ddechrau gan arwain wedyn i fyny’r llethr coediog serth at Forest Hill. Yn yr haf, bydd nifer dda o Dingochiaid (Redstarts) a Gwybedwyr Brith (Pied Flycatchers) yn bridio yn y goedwig yn ogystal â Chnocellau Brith Mwyaf a Lleiaf (Greater and Lesser Spotted Woodpeckers). Ambell waith, daw’r Hebogiaid Glas (Peregrine Falcons) i nythu yn y chwareli segur sydd yng ngheunant yr afon.

5. Mwnt

Mae Mwnt yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’r Ymddiriedolaeth honno sy’n rhedeg y maes parcio bach (codir tâl), y toiledau a chiosg hufen iâ bach yn ystod yr haf.

Awgrymiadau ar gyfer Adara/Adar Allweddol
Maes parcio talu ac arddango Y bore bach neu gyda’r nos yw’r adeg orau, a hynny oherwydd y nifer fawr o ymwelwyr sy’n dod yma. Wrth gerdded o amgylch y “Mwnt” ei hun, dylech weld sawl Pibydd y Graig (Rock Pipits) a Chlep y Garreg (Stonechats). Mae’r Tingochiaid Du (Black Redstarts) yn fudwyr ac yn deithwyr mynych yn ystod y gaeaf; edrychwch o amgylch y capel a’r nant i lawr at y traeth. Dylai’r rhai sy’n gwylio allu gweld y Frân Goesgoch (Chough). Mae’r Hebog Glas, yn ogystal â’r Cudyll Bach (Merlin) yn gyffredin yn y gaeaf. Os byddwch yn gwylio’r môr am gyfnod byr, a hynny yn ystod unrhyw dymor, dylech gael cipolwg ar Ddolffiniaid Trwynbwl (Bottle-nosed Dolphins) ac ambell Lamhidydd (Porpoise).

6. Llangranog – Ynys Lochtyn

Ynys Lochtyn yw’r enw ar y pentir bach, ychydig i’r gogledd o Langrannog, sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Awgrymiadau ar gyfer Adara / Adar Allweddol
Parciwch ym maes parcio’r traeth, yna dilynwch y llwybr a’r grisiau sy’n arwain i fyny’r graig tua’r gogledd. Mae’n daith o tua milltir ar droed i Ynys Lochtyn. Taith gerdded ddymunol, heb fod yn rhy egnïol, sy’n cynnig golygfeydd godidog o’r arfordir. Byddwch bron yn siŵr o weld Clep y Garreg (Stonechats). Ar ôl cyrraedd Ynys Lochtyn, chwiliwch ar yr “ynys” am y Frân Goesgoch (Chough) sydd i’w gweld yma ar hyd y flwyddyn. Mae’n bosib hefyd y bydd adarwyr lwcus yn gweld yr Hebog Glas (Peregrine) a’r Cudyll Bach (Merlin) yn y gaeaf. Os edrychwch yn ofalus ar y môr, efallai y gwelwch Ddolffiniaid Trwynbwl a’r Trochydd Gyddf-goch (Red-throated Diver) yn y gaeaf.