{"id":770,"date":"2019-02-26T23:59:52","date_gmt":"2019-02-26T23:59:52","guid":{"rendered":"http:\/\/dev2.visitcardigan.com\/history\/"},"modified":"2019-05-01T08:18:24","modified_gmt":"2019-05-01T07:18:24","slug":"hanes","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/crwydro\/hanes\/","title":{"rendered":"Hanes"},"content":{"rendered":"<h3>Hanes Aberteifi Gorllewin Cymru<\/h3>\n<p>Porthladd Aberteifi Pan sefydlwyd tref Aberteifi yn 1110, daeth yn ganolfan fasnachol bwysig. Byddai rethyn gwl\u00e2n yn cael ei allforio i Arras yn Ffrainc i\u2019w ddefnyddio i wehyddu tapestr\u00efau a ch\u00e2i nwyddau fel \u0177d a chalchfaen eu mewnforio. Mae cofnodion am gyflenwadau gwin ar gael mor gynnar \u00e2\u2019r 14eg Ganrif.<\/p>\n<p>Erbyn Oes Elizabeth, roedd Aberteifi wedi tyfu yn un o\u2019r porthladdoedd pwysicaf yng Nghymru, yn ail yn unig i Aberdaugleddau, a\u2019i awdurdod yn ymestyn dros ardal helaeth, o Abergwaun i Aberaeron.<\/p>\n<p>Yn ystod y ganrif ddilynol, dechreuodd y diwydiant adeiladu llongau ennill ei blwyf a thyfodd porthladd Aberteifi yn fwy fyth o ran maint, a gwelwyd nwyddau, yn amrywio o halen i eirin sych ac o \u0177d i dar, yn cael eu trin a\u2019u trafod. Adeiladwyd tollty yn Stryd y Santes Fair er mwyn ymdopi \u00e2\u2019r fasnach gynyddol ac mae\u2019r adeilad hwnnw yn dal yno heddiw.<\/p>\n<p>Erbyn dechrau\u2019r 1800au, roedd dros 300 o longau wedi\u2019u cofrestru ym mhorthladd Aberteifi a thros 1,000 o ddynion yn cael eu cyflogi yma. Byrlymai\u2019r porthladd gan fwstwr gwneuthurwyr rhaffau, gwaith nwy, ffowndr\u00efau, odynnau calch, ierdydd coed, melinau llifio, gweithfeydd briciau, adeiladwyr llongau, gefeiliau, warysau, tanerdai, bragdai a llawer iawn mwy. Byddai teithwyr yn glanio ac yn ymadael oddi ar Gei\u2019r Teifi. Yn wir, daeth Aberteifi yn un o borthladdoedd mwyaf y wlad ar gyfer allfudo trawsatlantig, a byddai\u2019n anfon llongau fel yr Active a\u2019r Albion i New Brunswick yng ghanada a\u2019r Triton i Efrog Newydd. Hwyliai llongau nwyddau o bedwar ban byd i mewn i Gei\u2019r Cambria, tra roedd Glanfa Lloyd yn ymdrin \u00e2 glo a masnach arfordirol leol gan mwyaf. C\u00e2i coed o\u2019r Baltig ac o Ogledd America eu mewnforio i\u2019r Cei Masnachol [Mercantile Quay], ac roedd llongau oedd yn cario calch ar gyfer adeiladu ac amaethyddiaeth yn glanio yn y Morglawdd Masnachol [Mercantile<br \/>\nBreakwater].<\/p>\n<p>Daeth cysylltiadau masnach rhyngwladol Aberteifi a\u2019i lleoliad delfrydol \u00e2 llewyrch heb ei debyg o\u2019r blaen i\u2019r ardal, ac yn hyn o beth roedd yn curo holl borthladdoedd Prydain, ac eithrio Bryste, Lerpwl a Llundain. Roedd y diwydiant adeiladu llongau wedi\u2019i ganoli yn Netpool (sydd bellach yn barc) ac ymhellach i lawr yr afon yn Llandudoch. Adeiladwyd cannoedd o longau ar Afon Teifi \u2013 gyda\u2019r rhai o\u2019r rhain yn pwyso hyd at 400 tunnell fetrig.<\/p>\n<p>Pan ddechreuodd aber y Teifi lanw \u00e2 llaid gan greu trafferthion mynediad i longau mwy o faint, a gyda dyfodiad y rheilffordd i Aberteifi yn 1886, dechreuodd y porthladd ddirywio a chyn pen 20 mlynedd yn unig, doedd dim o werth ar \u00f4l o\u2019r fasnach a fu\u2019n fwy ei maint yn y porthladd hwn nag yn<br \/>\ny rhan fwyaf o borthladdoedd Prydain ar un adeg. Erbyn dechrau\u2019r 20fed ganrif, roedd Netpool, lle\u2019r adeiladwyd cannodd o longau, eisoes wedi\u2019i droi\u2019n llecyn hamdden.<\/p>\n<p>Heddiw, mae\u2019r ceiau sy\u2019n cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd, yn cynnig lle i eistedd a llecyn perfformio, pont\u0175n ar gyfer teithiau cychod, a llwybrau cerdded dymunol ar hyd glan yr afon. Defnyddir yr afon yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau hamdden fel pysgota, caiacio a hwylio.<\/p>\n<p>Mae cysylltiad hir Aberteifi gyda\u2019r m\u00f4r a\u2019r afon yn mynd i gael ei ddogfennu mewn prosiect treftadaeth newydd Dros y Tonnau<\/p>\n<h3>Neuadd y Dref<\/h3>\n<p>Neuadd y DrefComisiynwyd Neuadd y Dref a Neuadd Farchnad Aberteifi ym 1856. Hwn oedd yr adeilad dinesig cyntaf ym Mhrydain yn yr arddull \u2018Gothig modern\u2019 \u2013 arddull a hyrwyddwyd gan John Ruskin a hyd heddiw mae arbenigwyr ym maes pensaern\u00efaeth Oes Fictoria yn dal i\u2019w nodi fel eithriad anghyffredin yng nghyd-destun adeiladau cyhoeddus Gothig. Ceir dylanwad Arabaidd yn yr addurn bwa sydd i\u2019w weld yn y naill adeilad a\u2019r llall. Denodd y cynllun sylw cenedlaethol, ac ymddangosodd darlun eglurhaol yn The Building News ym 1859. Defnyddiwyd llechi o gloddfa nid nepell i ffwrdd yng Nghilgerran a charreg Caerfaddon (Bathstone) i lunio\u2019r adeiladau.<\/p>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Guildhall-Cardigan.jpg\" rel=\"lightbox[770]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Guildhall-Cardigan-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" class=\"aligncenter size-large wp-image-948\" \/><\/a>\n<p>Ym 1855, dewiswyd safle a adwaenid fel \u2018Free School Bank\u2019 \u2013 sef llethr ychydig y tu hwnt i safle Porth Gogleddol y dref ganoloesol \u2013 ar gyfer yr adeiladau cyhoeddus newydd a\u2019r marchnadoedd. Bryd hynny, roedd yr ysgol ramadeg a lle cadw coets i\u2019w gweld ar y safle, gyda thir agored y tu cefn iddynt. Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Maer, R D Jenkins a mawr fu\u2019r dathlu. Seiniwyd clychau Eglwys y Santes Fair, taniwyd tair rownd o\u2019r canon, rhannwyd casgen o porter ymhlith y gweithwyr, addurnwyd y strydoedd a chynhaliwyd gorymdaith o amgylch y dref.<\/p>\n<p>Roedd marchnad gig, cyfnewidfa \u0177d a storfa, ysgol ramadeg, ystafell gyfarfod gymunedol, llyfrgell, ystafell gyfarfod y cyngor, ystafell ddarllen a neuadd gyhoeddus i\u2019w gweld ar y safle \u2013 llawer iawn mwy na\u2019r \u2018neuadd uwchben marchnad\u2019 arferol oedd yn gyffredin bryd hynny.<\/p>\n<h4>Y Canon<\/h4>\n<p>Cafodd y canon Rwsiaidd, a gyflwynwyd i\u2019r dref ym 1857 er cof am aberth milwyr Aberteifi yn Rhyfel y Crimea, ei osod yn ei le o\u2019r diwedd o flaen Neuadd y Dref ym 1871. Defnyddiwyd y gwn ym Mrwydr y \u2018Light Brigade\u2019, yn ystod cyrch enwog Balaclava.<\/p>\n<h4>T\u0175r y Cloc<\/h4>\n<p>Pan urddwyd David Davies, masnachwr gwin a gwirodydd, yn faer ym 1890, cynigiodd gloc i\u2019r dref \u2013 cloc, a adwaenir heddiw fel y \u201dWhiskey Clock\u2019, ac fe\u201di gosodwyd dros fynedfa\u2019r rhaniad rhwng yr ysgol a\u2019r farchnad \u0177d. Pedair troedfedd o led yw maint y pedwar wyneb cloc haearn ac mae bysedd copr a gwydr didraidd gan bob un ohonynt. Golau nwy oedd yn eu goleuo ar y cychwyn. Ar y copa gwelir ceiliog gwynt rhwyllog gyda\u2019r llong a\u2019r castell sy\u2019n rhan o selnod y dref.<\/p>\n<h3>Castell Aberteifi<\/h3>\n<p>Castle and BridgeAdeiladwyd castell cyntaf Aberteifi 1 cilomedr i lawr yr afon o\u2019i safle presennol yn y dref. Castell pren oedd hwn a godwyd gan y Normaniaid ar safle anheddiad cynharach o gyfnod Oes yr Haearn. Ystyrid bod y safle presennol yn fwy addas ac ym 1100 adeiladwyd ail gastell pren yma gan Gilbert de Clare.<\/p>\n<p>Ym 1136, gorymdeithiodd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd, tywysog Deheubarth, tua\u2019r de a gorchfygodd y Normaniaid ym mrwydr Crug Mawr (rhyw ddwy filltir i\u2019r gogledd o\u2019r dref). Cipiodd Gastell Aberteifi a dechrau ei ailgodi fel castell maen. I ddathlu cwblhau\u2019r Castell, cynhaliodd yr Arglwydd Rhys yr hyn rydyn ni heddiw yn ei adnabod fel yr Eisteddfod Genedlaethol Gyntaf gyda beirdd a cherddorion yn cael eu gwahodd i ddod ynghyd i gystadlu.<\/p>\n<p>Yn sgil marwolaeth Rhys ym 1197, cafwyd cyfnod arall o wrthdaro. Bu\u2019n rhaid i\u2019w feibion, Maelgwyn a Gruffydd, frwydro i gadw eu hetifeddiaeth ac o ganlyniad gwerthwyd y Castell i\u2019r Brenin John o Loegr.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, yng nghanol y 13eg Ganrif, daeth y Castell unwaith eto yn eiddo i\u2019r Normaniaid. Adeiladwyd dau d\u0175r, gorthwr newydd a mur y dref, a\u2019r cyfan er mwyn creu cadarnle, ac mae adfeilion y rhain i\u2019w gweld hyd heddiw. Erbyn diwedd y 13eg ganrif, hawliwyd y castell gan y Brenin Edward a daeth unwaith eto dan reolaeth y Saeson.<\/p>\n<p>Yn ystod y Rhyfel Cartref yn Lloegr, dinistriwyd y rhan helaeth o\u2019r castell gan Bengryniaid Oliver Cromwell, ac yn ddiweddarach, defnyddiwyd rhannau o\u2019r adeilad fel canolfan weinyddol, carchar a llain gyhoeddus ac iddi lawnt fowlio. Ar ddechrau\u2019r 1800au, adeiladwyd plasty preifat ar y tir a chychwynnodd y Castell ar gyfnod ychydig yn fwy heddychlon.<\/p>\n<p>Nid yw Castell Aberteifi yn agored i\u2019r cyhoedd ar hyn o bryd ond mae prosiect atgyweirio enfawr ar fin dechrau er mwyn sicrhau bod modd defnyddio\u2019r lle unwaith eto.Hefyd, mae\u2019r castell yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol<\/p>\n<h3>Castell Cilgerran<\/h3>\n<p>Ceir cyfeiriad at Gilgerran wrth ei enw am y tro cyntaf ym 1164, pan gipiwyd y castell gan yr Arglwydd Rhys. Fe\u2019i hadenillwyd gan William Marshal, Iarll Penfro, ym 1204, ond daeth i ddwylo\u2019r Cymry unwaith eto yn ystod ymgyrchoedd Llywelyn Fawr ym 1215. Er hynny, wyth mlynedd yn ddiweddarach, daeth yr adeilad yn \u00f4l i ddwylo mab William, sef William arall, ac ef, mae\u2019n bur debyg, fu\u2019n gyfrifol am adeiladu\u2019r castell mawreddog o feini sydd i\u2019w weld heddiw. Mae\u2019n bosib iawn fod ffurf y castell presennol yn adlewyrchu ffurf y castell gwrthglawdd cynharach.<\/p>\n<p>Yn yr 1370au, ofnid ymosodiad o du\u2019r Ffrancod, a gorchmynnodd Edward III y dylid ail-atgyfnerthu castell Cilgerran oedd braidd yn adfeiliedig erbyn hyn. Yn ystod cyfnod y Tuduriaid, cyflwynodd Harri\u2019r VII y castell i deulu\u2019r Vaughaniaid, ac fe barhaodd y teulu hwnnw i fyw yno tan ddechrau\u2019r 17eg ganrif, pan godwyd cartref newydd ganddynt gerllaw. Aeth y castell yn adfail, ond oherwydd ei leoliad darluniadwy, daeth yn ffefryn cynnar gan dwristiaid, ac roedd yr ymwelwyr hynny, o gyfnod y 18fed ganrif, yn gallu cyrraedd yno mewn cwch o Aberteifi.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Hanes Aberteifi Gorllewin Cymru Porthladd Aberteifi Pan sefydlwyd tref Aberteifi yn 1110, daeth yn ganolfan fasnachol bwysig. Byddai rethyn gwl\u00e2n yn cael ei allforio i Arras yn Ffrainc i\u2019w ddefnyddio i wehyddu tapestr\u00efau a ch\u00e2i nwyddau fel \u0177d a chalchfaen eu mewnforio. Mae cofnodion am gyflenwadau gwin ar gael mor gynnar \u00e2\u2019r 14eg Ganrif. Erbyn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":948,"parent":791,"menu_order":8,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":43,"footnotes":""},"class_list":["post-770","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/770","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=770"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/770\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":951,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/770\/revisions\/951"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/791"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/948"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=770"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}