{"id":663,"date":"2019-04-26T17:07:26","date_gmt":"2019-04-26T16:07:26","guid":{"rendered":"http:\/\/dev2.visitcardigan.com\/?page_id=663"},"modified":"2019-06-19T20:15:20","modified_gmt":"2019-06-19T19:15:20","slug":"gwylio","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/crwydro\/gwylio\/","title":{"rendered":"Gwylio"},"content":{"rendered":"<p>Mae\u2019r arfordir fel cyfanwaith yn amrywio\u2019n fawr, o\u2019r systemau twyni tywod yn Nhrefdraeth, Poppit a Gwbert i draethau anwastad a chreigiog Penrhyn Cemaes, Ynys Aberteifi, Mwnt a Llangrannog, heb s\u00f4n am aberoedd Afon Nyfer ac Afon Teifi. A dyna chi wedyn y lliaws o ddyffrynnoedd coediog sy\u2019n dirgrynu yn y gwanwyn a\u2019r haf i g\u00e2n adar.<\/p>\n<p>Glas y dorlanMae unrhyw fan yn yr ardal yn dda mewn gwirionedd, nid yn unig am adar ond hefyd am olygfeydd trawiadol iawn. Mae cynnwys yr holl leoliadau da hyn felly yn amhosib yn yr arweiniad byr hwn (os hoffech wybodaeth fanylach, darllenwch y llyfr, \u201cBirding in Pembrokeshire\u201d gan Green &amp; Roberts \u2013 ISBN 095421451X).<\/p>\n<p>Os ydych yn chwilio am rywogaethau arfordirol fel y Fr\u00e2n Goesgoch (Chough), y Cudyll Glas (Peregrine), Clep y Garreg (Stone Chat) ac adar y m\u00f4r, yna ewch i Mwnt neu i Langrannog. Os mai adar hirgoes (rhydwyr) sy\u2019n mynd \u00e2\u2019ch bryd, yna ewch i aberoedd afon Nyfer ac afon Teifi, ac os mai adar hela yw\u2019ch diddordeb, yna aber afon Teifi neu Gorsydd y Teifi amdani. Ond os hoffewch weld adar dirifedi, yna does unman yn well na\u2019r hen goedwigoedd \u2013 ewch am sgowt i ddyffryn Teifi, rhwng Corsydd y Teifi a Llechryd.<\/p>\n<p>Mae Llwybr Afon Teifi yn ffordd ardderchog i ddarganfod bywyd gwyllt Aberteifi<\/p>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-full wp-image-679\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/westwales-bird-watching.png\" alt=\"\" width=\"400\" height=\"217\" \/>\n<p style=\"text-align: center;\"><em>Cliciwch ar fawdlun ar gyfer delwedd fwy ac enw&#8217;r aderyn<\/em><\/p>\n<div class=\"custom-gallery-wrapper\">\n<ul class=\"custom-gallery\" >\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/blue_tit_mike_lane.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/blue_tit_mike_lane-200x200.jpg\" alt=\"Blue Tit\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Curlew_chris_gomersall.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Curlew_chris_gomersall-200x200.jpg\" alt=\"Curlew\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/greenfinch_mark_hamblin.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/greenfinch_mark_hamblin-200x200.jpg\" alt=\"Greenfinch (male)\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/stonechat_chris_gomersall.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/stonechat_chris_gomersall-200x200.jpg\" alt=\"Stonechat\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Kingfisher_2.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Kingfisher_2-200x200.jpg\" alt=\"Kingfisher\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Shelduck_chris_gomersall.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Shelduck_chris_gomersall-200x200.jpg\" alt=\"Shelduck\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/peregrine_chris_gomersall.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/peregrine_chris_gomersall-200x200.jpg\" alt=\"Peregrine Falcon\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/grey_wagtail3.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/grey_wagtail3-200x200.jpg\" alt=\"Grey Wagtail\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/oyster_catcher.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/oyster_catcher-200x148.jpg\" alt=\"Oyster Catcher\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<li class=\"custom-gallery-item\">\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/chough.jpg\" rel=\"lightbox[663]\">\n<img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/chough-200x143.jpg\" alt=\"Chough\" \/>\n<\/a>\n<\/li>\n<\/ul>\n<\/div>\n\n<h3>1. Bae Trefdraeth \/ Aber Afon Nyfer<\/h3>\n<p>Mae\u2019r Afon Nyfer yn llifo i\u2019r m\u00f4r yn Nhrefdraeth, gan greu aber bychan tywodlyd. Mae llwybrau troed ar y naill ochr a\u2019r llall i\u2019r aber, sy\u2019n gwneud yr ardal hon yn hawdd ei thramwyo. Mae\u2019r safle hwn, serch hynny, yn dioddef cryn dipyn o aflonyddwch, yn arbennig yn ystod y cyfnodau brig adeg gwyliau.<\/p>\n<table class=\"sortable fifty\">\n<tbody>\n<tr>\n<th>Mynediad Parcio Parrog<\/th>\n<th>Awgrymiadau ar gyfer Adara \/ Adar Allweddo<\/th>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>(SN053396) Y \u201cbont haearn\u201d ar y ffordd i\u2019r cwrs golff. Adegau gorau i ymweld: Drwy\u2019r flwyddyn. Os am weld adar hirgoes, ewch yno pan fydd y llanw ar ei hanner neu ar drai<\/td>\n<td>Mae mwyafrif yr adar yn tueddu ymgynnull i gyfeiriad y bont haearn ond weithiau cewch olygfa well drwy gerdded am ryw ychydig oddi yno ar hyd y llwybr troed. Mae hyd at 100 o Chwiwellau (<em>Wigeon<\/em>), 50 o Gorhwyaid (<em>Teal<\/em>), 50 o B\u00efod y M\u00f4r (<em>Oystercatchers<\/em>), 150 o Ylfinod (<em>Curlew<\/em>) a 15 o Bibyddion Coesgoch (<em>Redshanks<\/em>) yn gaeafu yn yr aber. Ymhlith y rhywogaethau eraill sydd i\u2019w gweld yn aml mae\u2019r Cr\u00ebyr (<em>Heron<\/em>), y Cr\u00ebyr Bach Copog (<em>Little Egret<\/em>) a Glas y dorlan (<em>Kingfisher<\/em>) \u2013 sydd i\u2019w gweld orau o ben y bont haearn; edrychwch i gyfeiriad y torlannau caregog i fyny\u2019r afon yn y gaeaf). Mae taith fudo\u2019r adar hirgoes yn ystod y gwanwyn a\u2019r hydref yn peri bod y fan hon yn werth ymweld \u00e2 hi i gael sgowt. Gwelwyd Cwtiaid Caint (<em>Kentish Plover<\/em><em>s<\/em>) yma yn ystod y gwanwyn a Phibyddion Bach (<em>Little Stints<\/em>) a Chorbibyddion (<em>Curlew Sandpipers<\/em>) yn yr hydref. Yn y gaeaf, os edrychwch am Bibydd y Waun (<em>Pipit<\/em>), efallai y cewch gip ar Bibydd y D\u0175r (<em>Water Pipit<\/em>).<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<h3>2. Afon Teifi<\/h3>\n<p>Ffin ogleddol Sir Benfro, a Cheredigion a Sir Gaerfyrddin mewn rhai mannau yw Afon Teifi. Mae llawer o\u2019r mannau gorau ar gyfer gweld adar yn gorwedd ar y naill ochr neu\u2019r llall i\u2019r llinell ddychmygol hon.<\/p>\n<table class=\"sortable fifty\">\n<tbody>\n<tr>\n<th><\/th>\n<th>Awgrymiadau ar gyfer Adara \/ Adar Allweddol<\/th>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>a) Ceunant Cilgerran (SN197429) \u2013 trowch i lawr ar hyd y l\u00f4n fechan wrth ymyl Swyddfa\u2019r Post yng Nghilgerran.<\/td>\n<td>Parciwch wrth yr afon a cherddwch i\u2019r naill gyfeiriad neu\u2019r llall (i\u2019r chwith, \u00bc milltir yn unig, neu i\u2019r dde, tua 2 filltir i Bont Llechryd). Mae hwn yn lle da i weld Glas y dorlan (<em>Kingfisher<\/em>) yn ogystal \u00e2\u2019r Dyfrgi (<em>Otter<\/em>). Mae\u2019r rhywogaethau arferol i\u2019w gweld yn y goedwig, ac yn eu plith fe welwch y Gwybedwyr Brith (<em>Pied Flycatchers<\/em>)<em>, <\/em>Tingochiaid (<em>Redstarts<\/em>) a Chnocellau Brith Mwyaf a Lleiaf (<em>Greater<\/em><em> and Lesser Spotted Woodpeckers<\/em>)<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>b) Pont Llechryd (SN217436) \u2013 parciwch ar ochr sir Benfro, drws nesaf i fynedfa Castell Malgwyn<\/td>\n<td>Os edrychwch dros y bont, dylech weld y Siglen Lwyd (<em>Grey Wagtail<\/em>), Bach y D\u0175r (<em>Dipper<\/em>) efallai, ac os ydych chi\u2019n lwcus iawn, y Dyfrgi. Yn y gorffennol, gwelwyd Gwybedwyr Brith (<em>Pied Flycatchers<\/em>), y Tingoch (<em>Redstarts<\/em>) a Chnocellau Brith Lleiaf (<em>Lesser Spotted Woodpeckers<\/em>) yn y goedwig fechan wasgaredig.<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>c) Cenarth (SN269 416) \u2013 parciwch ar ochr Ceredigion i\u2019r afon yn y maes parcio a thalu, neu yn y maes parcio am ddim sydd ar yr ochr ddeheuol (sir Gaerfyrddin).<\/td>\n<td>Cerddwch i fyny wrth ymyl y rhaeadr, ar yr ochr ogleddol (Ceredigion). Gallwch fod bron yn si\u0175r o weld Bach y D\u0175r (<em>Dipper<\/em>) a Siglennod Llwyd (<em>Grey Wagtails<\/em>) yma. Yn yr haf, mae\u2019r coetir yn gyrchfan i\u2019r ymwelwyr haf arferol, yn ogystal \u00e2\u2019r Tingoch (<em>Redstart<\/em>) a\u2019r Gwybedwr Brith (<em>Pied Flycatcher<\/em>).<\/td>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>d) Castellnewydd Emlyn \u2013 parciwch ym maes parcio\u2019r dref wrth ymyl y Mart Anifeiliaid neu y tu \u00f4l i gloc y dref.<\/td>\n<td>Mae\u2019r daith gerdded sydd wrth ymyl yr afon, y tu cefn i adfeilion y castell (SN312407), yn un ddymunol iawn. Gallwch weld Glas y dorlan (<em>Kingfisher<\/em>), Bach y D\u0175r (<em>Dipper<\/em>), Siglennod Llwyd (<em>Grey Wagtails<\/em>) a lliaws o Wyddau Canada (<em>Canadian<\/em><em> Geese<\/em>) gwyllt yn y fan hon. Gall fod yma Hwyaid Danheddog (<em>Goosander<\/em>) hefyd yn y gaeaf.<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<h3>3. Aber Afon Teifi<\/h3>\n<p>Yn anffodus, mae cryn dipyn o aflonyddwch ar yr aber ac felly ni fydd adar hirgoes yn aros yma am hir. Fel y gwelwch wrth y disgrifiadau isod, mae yma nifer o safleoedd allweddol:<\/p>\n<table class=\"sortable fifty\">\n<tbody>\n<tr>\n<th>Golygfannau a\u2019r Amserau Gorau i Ymweld<\/th>\n<th>Awgrymiadau ar gyfer Adara \/ Adar Allweddol<\/th>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Y tu \u00f4l i <em>Jewsons<\/em> \u2013 pan fydd yn hanner llanw neu pan fydd y llanw ar drai (SN166460) Llithrfa Llandudoch \u2013 hanner llanw neu lanw ar drai (SN164467) <em>Webley<\/em> \u2013 Penllanw (SN158479) Patch \u2013 Penllanw (SN160<\/td>\n<td>Adar rhydio ar daith ac yn gaeafu; ychydig iawn yn yr haf. Mae <em>Jewsons<\/em> yn lle da ar gyfer gweld Pibyddion y Traeth (<em>Common Sandpipers<\/em>), Pibyddion Coesgoch (<em>Redshank<\/em>) a\u2019r Coegylfinir (<em>Whimbrel<\/em>) sy\u2019n gaeafu ac yn aros yno wrth fudo. Llithrfa Llandudoch yw\u2019r lle gorau i weld y gwahanol wylanod; mae rhai\u2019r Canolfor yn gymharol gyffredin fesul un neu ddau. Mae\u2019r Wylan Fechan, Gwylan Glaucous a Gwylan Gwlad yr I\u00e2 hefyd wedi eu gweld o\u2019r fan hon. Edrychwch ar hyd y lan bellaf am adar hirgoes a\u2019r Cr\u00ebyr Bach Copog (<em>Little Egret<\/em>). Y tafod tywod gyferbyn \u00e2 thafarn y <em>Webley<\/em> yw man clwydo\u2019r adar hirgoes mwyaf \u2013 Pioden y M\u00f4r (<em>Oystercatcher<\/em>), y Gylfinir (<em>Curlew<\/em>), Cyffylog y M\u00f4r (<em>Godwit<\/em>) a\u2019r Pibydd (<em>Knot<\/em>) \u2013 adeg penllanw. Gyferbyn \u00e2\u2019r <em>Webley <\/em>ar y lan ogleddol, tu hwnt i\u2019r maes carafannau \/ clwb cychod \u2013 dyma ble mae\u2019r adar rhydio lleiaf yn ymgasglu \u2013 Llwyd y Tywod (<em>Dunlin<\/em>), Hutan y Tywod (<em>Sanderling<\/em>), Ehedydd y M\u00f4r (<em>Ringed Plover<\/em>) ac yn yr hydref, y Pibydd Bach (<em>Little Stint<\/em>) a\u2019r Gylfinir Bach (<em>Curlew Sandpiper<\/em>).<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<h3>4. Corsydd Teifi \u2013 Canolfan Bywyd Gwyllt Cymru<\/h3>\n<p>Corsydd Teifi yw un o\u2019r prif warchodfeydd sy\u2019n eiddo i ac yn cael eu rheoli gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (rhif teleffon 01239 621600). Rhennir y gors yn ddwy gan yr hen reilffordd rhwng Aberteifi a\u2019r Hendy-gwyn sydd wedi bod yn segur ers yr 1950au (1963 rwy\u2019n credu; un o doriadau Beeching). Mae taith gerdded gylchol yn arwain o amgylch y corsydd (Llwybr y Dyfrgi) ac yma fe welwch 6 chuddfan a dwy daith arall drwy goedwig, gydag un ohonynt yn arwain i fyny\u2019r ceunant i Gilgerran.<\/p>\n<table class=\"sortable fifty\">\n<tbody>\n<tr>\n<th><\/th>\n<th>Awgrymiadau ar gyfer Adara\/Adar Allweddol<\/th>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Mae lle parcio ym maes parcio\u2019r Ganolfan Ymwelwyr ar ochr ddeheuol y warchodfa (SN186448). Dilynwch yr arwyddion allan o Aberteifi tuag at Gilgerran. Wrth ddod i mewn i\u2019r pentref, trowch i\u2019r chwith i gael mynediad i Warchodfa Corsydd Teifi ar hyd yr hen reilffordd. Cadwch eich llygaid ar agor am geirw <em>Sika<\/em> yn y caeau ar y dde. Mae yna fynediad hefyd i gerddwyr neu feicwyr o Aberteifi, ar hyd llwybr glan yr afon o Hen Bont Aberteifi. Mae siop anrhegion a chaffi yn y Ganolfan Groeso i Ymwelwyr sydd yn y warchodfa. Amserau Gorau i Ymweld: Drwy\u2019r flwyddyn ond yn gynnar yn y bore neu\u2019n hwyr yn y prynhawn os yn bosib. Mae canol dydd yn yr haf yn gyfnod tawel o safbwynt gweld adar<\/td>\n<td>Mae Llwybr y Dyfrgi yn cymryd rhyw 1\u00bd awr i\u2019w gerdded, ac mae\u2019n arwain o\u2019r Ganolfan \/ maes parcio ar hyd yr hen reilffordd. Mae\u2019r gors yn gartref i Deloriaid Cetti (<em>Cetti\u2019s Warblers<\/em>) a bydd hyd at 30 o Regennod y D\u0175r (<em>Water Rails<\/em>) yn gaeafu yno. Efallai y byddwch chi\u2019n lwcus iawn ac yn cael cipolwg ar Aderyn y Bwn (<em>Bittern<\/em>). Yn yr haf, mae sawl p\u00e2r o Deloriaid y Gors (<em>Reed<\/em> <em>Warblers<\/em>) a Theloriaid yr Hesg (<em>Sedge Warblers<\/em>) yn bridio yn y gwelyau cyrs yn ogystal \u00e2 niferoedd da o Benddu\u2019r Gors (<em>Reed Buntings<\/em>)<em>.<\/em> Edrychwch yn y Cuddfannau \u201cCilfach\u201d a \u201cGlas y dorlan\u201d am hwyaid, Glas y dorlan a Thelor Cetti (<em>Cetti\u2019s Warbler<\/em>), Cuddfan \u201cY Gylfinir\u201d am y Cr\u00ebyr (<em>Heron<\/em>), y Gylfinir (<em>Curlew<\/em>) a gwylanod mwy o faint. Mae Cuddfan \u201cY Cr\u00ebyr neu Pentwd\u201d yn lle da i weld Corhwyaid (<em>Teal<\/em>)<em>, <\/em>Chwiwellau (<em>Wigeon<\/em>), Crehyrod <em>(<\/em><em>Heron<\/em>), y Pibydd Gwyrdd (<em>Green Sandpiper<\/em>) a\u2019r Pibydd Coeswerdd (\u2018<em>Shanks<\/em>\u2019 ) ac mae golygfa dda o\u2019r fan hon ar draws y gors gyfan. Oddi yma, weithiau, fe welwch Hebogiaid yr Hesg (<em>Marsh Harriers<\/em>) yn hedfan ar eu taith. Mae gan y warchodfa nifer o fannau da lle gallwch wylio Dyfrgwn. Maen nhw i\u2019w gweld fel arfer pan fydd y llanw ar drai, ac wrth iddi nosi neu\u2019n gynnar yn y bore. Mae Llwybr Ceunant Afon Teifi yn dilyn hynt Afon Teifi i Gilgerran, gyda glan yr afon i ddechrau gan arwain wedyn i fyny\u2019r llethr coediog serth at <em>Forest Hill<\/em>. Yn yr haf, bydd nifer dda o Dingochiaid (<em>Redstarts<\/em><em>) <\/em>a Gwybedwyr Brith (<em>Pied Flycatchers<\/em>) yn bridio yn y goedwig yn ogystal \u00e2 Chnocellau Brith Mwyaf a Lleiaf (<em>Greater and Lesser Spotted Woodpeckers<\/em>). Ambell waith, daw\u2019r Hebogiaid Glas (<em>Peregrine Falcons<\/em><em>)<\/em> i nythu yn y chwareli segur sydd yng ngheunant yr afon.<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<h3>5. Mwnt<\/h3>\n<p>Mae Mwnt yn eiddo i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a\u2019r Ymddiriedolaeth honno sy\u2019n rhedeg y maes parcio bach (codir t\u00e2l), y toiledau a chiosg hufen i\u00e2 bach yn ystod yr haf.<\/p>\n<table class=\"sortable fifty\">\n<tbody>\n<tr>\n<th><\/th>\n<th>Awgrymiadau ar gyfer Adara\/Adar Allweddol<\/th>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Maes parcio talu ac arddango<\/td>\n<td>Y bore bach neu gyda\u2019r nos yw\u2019r adeg orau, a hynny oherwydd y nifer fawr o ymwelwyr sy\u2019n dod yma. Wrth gerdded o amgylch y \u201cMwnt\u201d ei hun, dylech weld sawl Pibydd y Graig (<em>Rock Pipits<\/em>) a Chlep y Garreg (<em>Stonechats<\/em>). Mae\u2019r Tingochiaid Du (<em>Black Redstarts<\/em>) yn fudwyr ac yn deithwyr mynych yn ystod y gaeaf; edrychwch o amgylch y capel a\u2019r nant i lawr at y traeth. Dylai\u2019r rhai sy\u2019n gwylio allu gweld y Fr\u00e2n Goesgoch (<em>Chough<\/em>)<em>. <\/em>Mae\u2019r Hebog Glas, yn ogystal \u00e2\u2019r Cudyll Bach (<em>Merlin<\/em><em>) <\/em>yn gyffredin yn y gaeaf. Os byddwch yn gwylio\u2019r m\u00f4r am gyfnod byr, a hynny yn ystod unrhyw dymor, dylech gael cipolwg ar Ddolffiniaid Trwynbwl (<em>Bottle-nosed Dolphins<\/em>) ac ambell Lamhidydd (<em>Porpoise<\/em>).<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n<h3>6. Llangranog \u2013 Ynys Lochtyn<\/h3>\n<p>Ynys Lochtyn yw\u2019r enw ar y pentir bach, ychydig i\u2019r gogledd o Langrannog, sy\u2019n eiddo i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.<\/p>\n<table class=\"sortable fifty\">\n<tbody>\n<tr>\n<th><\/th>\n<th>Awgrymiadau ar gyfer Adara \/ Adar Allweddol<\/th>\n<\/tr>\n<tr>\n<td>Parciwch ym maes parcio\u2019r traeth, yna dilynwch y llwybr a\u2019r grisiau sy\u2019n arwain i fyny\u2019r graig tua\u2019r gogledd. Mae\u2019n daith o tua milltir ar droed i Ynys Lochtyn.<\/td>\n<td>Taith gerdded ddymunol, heb fod yn rhy egn\u00efol, sy\u2019n cynnig golygfeydd godidog o\u2019r arfordir. Byddwch bron yn si\u0175r o weld Clep y Garreg (<em>Stonechats<\/em>). Ar \u00f4l cyrraedd Ynys Lochtyn, chwiliwch ar yr \u201cynys\u201d am y Fr\u00e2n Goesgoch (<em>Chough<\/em>) sydd i\u2019w gweld yma ar hyd y flwyddyn. Mae\u2019n bosib hefyd y bydd adarwyr lwcus yn gweld yr Hebog Glas (<em>Peregrine<\/em>) a\u2019r Cudyll Bach (<em>Merlin<\/em>) yn y gaeaf. Os edrychwch yn ofalus ar y m\u00f4r, efallai y gwelwch Ddolffiniaid Trwynbwl a\u2019r Trochydd Gyddf-goch (<em>Red-throated Diver<\/em>) yn y gaeaf.<\/td>\n<\/tr>\n<\/tbody>\n<\/table>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae\u2019r arfordir fel cyfanwaith yn amrywio\u2019n fawr, o\u2019r systemau twyni tywod yn Nhrefdraeth, Poppit a Gwbert i draethau anwastad a chreigiog Penrhyn Cemaes, Ynys Aberteifi, Mwnt a Llangrannog, heb s\u00f4n am aberoedd Afon Nyfer ac Afon Teifi. A dyna chi wedyn y lliaws o ddyffrynnoedd coediog sy\u2019n dirgrynu yn y gwanwyn a\u2019r haf i g\u00e2n [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":679,"parent":791,"menu_order":9,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":25,"footnotes":""},"class_list":["post-663","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/663","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=663"}],"version-history":[{"count":17,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/663\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1898,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/663\/revisions\/1898"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/791"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/679"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=663"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}