{"id":620,"date":"2019-02-27T00:01:54","date_gmt":"2019-02-27T00:01:54","guid":{"rendered":"http:\/\/dev2.visitcardigan.com\/river-teifi-trail\/"},"modified":"2019-04-26T15:10:40","modified_gmt":"2019-04-26T14:10:40","slug":"llwybr-afon-teifi","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/crwydro\/llwybr-afon-teifi\/","title":{"rendered":"Llwybr Afon Teifi"},"content":{"rendered":"<p><span class=\"dropcap\">1<\/span> O ganol y dref, ewch i gyfeiriad y ffordd osgoi sydd ar gyrion y dref, gan ddilyn y palmant llydan ar yr ochr dde.  Mwynhewch y golygfeydd godidog o\u2019r warchodfa natur \u2013 cadwch olwg am hwyaid a chrehyrod (<em>herons<\/em>) sy\u2019n gaeafu.  Ar \u00f4l rhyw bum munud, cerddwch i lawr rhes o risiau ar yr ochr dde i chi, a cherddwch dan bont y ffordd osgoi.<\/p>\n<p><span class=\"dropcap\">2<\/span> Wedi i chi fynd trwy\u2019r glwyd, byddwch wedi cyrraedd gwarchodfa natur Corsydd Teifi.  Cadwch olwg am niferoedd mawr o adar rhydio a hwyaid sy\u2019n gaeafu, e.e. chwiwellau (<em>wigeons<\/em>), corhwyaid (<em>teals<\/em>) a hwyaid pengoch (<em>pochards<\/em>), yn ogystal \u00e2 morfrain (<em>cormorants<\/em>), crehyrod a giachod (<em>snipes<\/em>).<\/p>\n<p><span class=\"dropcap\">3 <\/span>Ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr wrth ymyl yr afon, gan edrych i gyfeiriad y brwyn am deloriaid (<em>warblers<\/em>) ac yn eu plith benddu\u2019r brwyn (<em>reed bunting<\/em>) &#8211; aderyn trawiadol sydd \u00e2 phen du a choler gwyn nodedig.  Gwrandewch am yr aderyn gwibiog hwnnw, telor Cetti (<em>Cetti\u2019s Warbler<\/em>) ac edrychwch am wyddau\u2019n hedfan uwch eich pen.  Arhoswch wrth ymyl y tair cuddfan sydd ar eich llwybr &#8211; mae\u2019r rhain yn edrych dros yr aber.  Mae\u2019r ffordd yn arwain drwy goetir, felly cadwch eich llygaid ar agor am ddryw bach y coed (<em>tiny goldcrest<\/em>) a\u2019r dryw ben aur (<em>brightly crested goldcrest<\/em>) a choch y berllan fron-goch (<em>red-breasted bullfinch<\/em>)<\/p>\n<p><span class=\"dropcap\">4 <\/span>Yn y fan lle mae\u2019r ffordd yn ymuno \u00e2\u2019r prif lwybr i mewn i\u2019r warchodfa, trowch i\u2019r chwith tuag at ganolfan ymwelwyr yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt.  Ar \u00f4l rhyw funud, trowch i\u2019r dde yn y fan hon gan ddilyn Llwybr y Wiwer, a chadwch eich llygaid ar agor am weilch glas (<em>sparrowhawks<\/em>), y gnocell fraith fwyaf (<em>great spotted woodpecker<\/em>) ac adar bach eraill y goedwig fydd i\u2019w gweld rhwng y coed.  Mae\u2019n bosib hefyd y gwelwch geirw yn y caeau.  Dilynwch y saethau melyn ar hyd y ffordd hyd nes y bydd y llwybr yn gadael tir yr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ac yna\u2019n cyrraedd y ffordd ar \u00f4l rhyw 15 munud.  Trowch i\u2019r dde yn y fan hon, ac eto wrth y gyffordd nesaf, gan groesi nant fechan a mynd heibio i nifer o dai.  Wrth i chi fynd ymhellach i mewn i bentref Cilgerran, chwiliwch am arwyddion castell Cilgerran ac ewch ar hyd llwybr bychan trwy\u2019r goedwig.  Bydd arwyddion yn eich cyfeirio oddi yma i\u2019r Ganolfan Gwryglau.  Mae\u2019n werth aros i gael golwg ar y castell bach ond hynod drawiadol hwn o\u2019r 12fed ganrif, ac mae\u2019n bosib y gwelwch nifer o ystlumod lleiaf (<em>pipistrelle bats<\/em>) yn y fan hon wrth iddi ddechrau nosi.<\/p>\n<p><span class=\"dropcap\">5<\/span> Mae\u2019r ganolfan gwryglau yn lle da i aros os ydych yn bwriadu mynd yn eich \u00f4l drwy ddilyn camau 4 i 1.  Yn yr haf, mae\u2019n werth gofyn beth yw dyddiad G\u0175yl Cilgerran a\u2019r rasys cwryglau blynyddol os hoffech ychwanegu ychydig hwyl at eich taith gerdded!  Sylwch: ar \u00f4l cyfnod hir o law, efallai y bydd yn amhosib cerdded ar hyd rhai mannau yn y rhan nesaf o\u2019r daith.<\/p>\n<p><span class=\"dropcap\">6<\/span> Dilynwch yr arwyddion am bentref Llechryd am ryw ddwy filltir.  Mae\u2019r llwybr hwn ar hyd glan yr afon yn un hawdd ei gerdded, ac efallai y gwelwch chi drochwyr (<em>dippers<\/em>), siglennod llwyd (<em>grey wagtails<\/em>), crehyrod (<em>herons<\/em>), glas y dorlan (<em>kingfisher<\/em>) neu ddau a hwyaid.  Os ydych chi\u2019n gynnar neu\u2019n ddigon tawel, mae\u2019n bosib y gwelwch chi ddyfrgi hyd yn oed.  Mae\u2019r dryw pen aur (<em>goldcrest<\/em>) y titw tomos las (<em>blue-tit<\/em>) a\u2019r llinos (<em>finche<\/em>) yn niferus, yn ogystal \u00e2 grwpiau swnllyd o adar gleision cynffon hir (<em>long-tailed tits<\/em>), yn eu pinc a gwyn digamsyniol, ynghanol y goedwig gymysg.<\/p>\n<p><span class=\"dropcap\">7<\/span> Wrth i\u2019r llwybr ddynesu at Llechryd, byddwch yn mynd heibio i Westy Ty Hammet, plasty Sioraidd trawiadol sy\u2019n dyddio n\u00f4l i 1795.  Gyferbyn ag adeiladau\u2019r stablau ar hyd y llwybr, fe welwch gyfres o adeiladau cerrig yn yr afon, adeiladau sydd bellach yn fan ymgasglu i hwyaid gwyllt (<em>mallards<\/em>), siglennod (<em>wagtails<\/em>) ac adar bychain amrywiol.  Maglau eogiaid oedd y rhain ar un adeg, a chanrifoedd yn \u00f4l byddai\u2019r pysgod hyn yn cael eu storio mewn ogof fechan islaw\u2019r llwybr dan eich traed.<\/p>\n<p><span class=\"dropcap\">8<\/span> Croeswch Bont Llechryd i edmygu golygfeydd o\u2019r afon a chadwch eich llygaid ar agor am grehyrod a glas y dorlan, yn ogystal \u00e2\u2019r wennol ddu a gwenoliaid o wahanol fath sy\u2019n ymgasglu eu cannoedd adeg yr haf.  Yn y fan hon, gallwch naill ai ddychwelyd i Aberteifi ar hyd yr un ffordd ag y daethoch (camau 6 i 1) neu droi i\u2019r chwith ar hyd y briffordd sy\u2019n arwain i\u2019r pentre\u2019 er mwyn dal bws.  Mae\u2019r dafarn &#8211; <em>The Carpenter\u2019s Arms<\/em> &#8211; yn cynnig prydau bwyd rhwng 11.30yb tan 2.00yp ac eto o 5.40 &#8211; 8.30 gyda\u2019r nos.  Mae swyddfa bost a garej hefyd ymhellach ymlaen yn y pentref.<\/p>\n<p><a title=\"Teifi River Trail\" href=\"http:\/\/www.visitcardigan.com\/birds\/Teifirivertrail_tcm5-74039.pdf\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-612 alignnone\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/pdf.png\" alt=\"PDF\" width=\"50\" height=\"50\" \/>  Llwythwch i lawr PDF o Lwybr Afon Teifi i\u2019w argraffu<\/a><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>1 O ganol y dref, ewch i gyfeiriad y ffordd osgoi sydd ar gyrion y dref, gan ddilyn y palmant llydan ar yr ochr dde. Mwynhewch y golygfeydd godidog o\u2019r warchodfa natur \u2013 cadwch olwg am hwyaid a chrehyrod (herons) sy\u2019n gaeafu. Ar \u00f4l rhyw bum munud, cerddwch i lawr rhes o risiau ar yr [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":612,"parent":791,"menu_order":4,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":29,"footnotes":""},"class_list":["post-620","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/620","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=620"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/620\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":627,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/620\/revisions\/627"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/791"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/612"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=620"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}