{"id":604,"date":"2019-02-27T00:01:23","date_gmt":"2019-02-27T00:01:23","guid":{"rendered":"http:\/\/dev2.visitcardigan.com\/walking-in-the-cardigan-area\/"},"modified":"2023-07-12T14:47:04","modified_gmt":"2023-07-12T13:47:04","slug":"cerdded-yn-ardal-aberteifi","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/crwydro\/cerdded-yn-ardal-aberteifi\/","title":{"rendered":"Cerdded yn ardal Aberteifi"},"content":{"rendered":"<h3>TAITH GERDDED SAIN AM DDIM O AMGYLCH TREF ABERTEIFI<\/h3>\n<p>Datgelu hanes cudd tref Aberteifi gyda theulu a ffrindiau ar daith gerdded sain. Mae&#8217;r daith gerdded sain am ddim hon a ddarperir gan Cardigan Walks yn cloddio i hanes cyfoethog Aberteifi o&#8217;i sefydlu yn 1110, gan rannu straeon tirnodau amlwg ledled y dref. Dros y daith, byddwch yn deall y dref a&#8217;r bobl a&#8217;r digwyddiadau sy&#8217;n effeithio ar yr ardal yn well.<\/p>\n<p class=\"infobox\"><a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/crwydro\/cerdded-yn-ardal-aberteifi\/cardigan-walks\/\">Ewch i dudalen Teithiau Aberteifi<\/a> i wrando ar y daith sain. Mae dros 50 munud o sain i wrando arno a 10 tirnodau i ymweld \u00e2 nhw.<\/p>\n<h3>LLWYBRAU CERDDED ARDAL ABERTEIFI<\/h3>\n<p>Erbyn hyn, gall cerddwyr fwynhau cyfres o deithiau cerdded cylchol gafodd eu datblygu\u2019n ddiweddar yn ardal Aberteifi. Mae\u2019r teithiau hyn yn amrywio o bedair milltir a hanner hyd chwe milltir a hanner o hyd ac yn arwain drwy nifer o lecynnau prydferth yn Nyffryn Teifi a\u2019r arfordir.<\/p>\n<p>Mae ardal dangnefeddus Aberteifi, gyda\u2019i hamrywiaeth o dirweddau arfordirol, bryniog, coediog a gwledig, yn cynnig dewis o deithiau cerdded amrywiol. Gallwch ddewis mynd am dro bach hamddenol ar hyd lonydd tawel cefn gwlad neu fynd ar deithiau cerdded hir dros lwybrau gwyllt ar ben clogwyni.<\/p>\n<img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-full wp-image-600 aligncenter\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/circular-walks-map-large.jpg\" alt=\"\" width=\"853\" height=\"1024\" \/>\n<p>Mae tref Aberteifi ei hun wedi\u2019i lleoli nid nepell o ben gogleddol Llwybr Arfordir Sir Benfro a phen deheuol Llwybr Arfordir Ceredigion, sydd ar hyn o bryd yn cael ei gwblhau. Saif y dref ar lan Afon Teifi ac mae\u2019r teithiau cerdded yn ymestyn o\u2019r dref, tua\u2019r m\u00f4r hyd at yr aber, a thua\u2019r tir i mewn i ddyffryn coediog yr afon. Ychydig filltiroedd i\u2019r de o\u2019r dref mae Mynyddoedd y Preselau, gyda\u2019u golygfeydd eang o rostir agored.<\/p>\n<p>Llandudoch (<em>St Dogmaels<\/em>) ar lannau deheuol Afon Teifi, rhyw filltir o Aberteifi, yw man cychwyn Llwybr Arfordir Sir Benfro. I gyfeiriad Traeth Poppit, mae\u2019r llwybr yn dringo uwchlaw traethellau a morfa heli aber Afon Teifi sy\u2019n gartref i amrywiaeth helaeth o adar.<\/p>\n<p>Yn Nhraeth Poppit, mae\u2019r llwybr yn dringo tuag at Benrhyn Cemaes ac yno cewch olygfeydd ysblennydd i gyfeiriad y gogledd ar draws Bae Ceredigion ac i\u2019r de ar hyd arfordir Sir Benfro. Wrth fynd tua\u2019r de i Drefdraeth, mae\u2019r llwybr yn dilyn yn agos at ymyl clogwyni tolciog lle mae haenau (<em>strata<\/em>) gwyrdro\u00ebdig ysgubol i\u2019w gweld.<\/p>\n<p>Ar hyd yr arfordir tua\u2019r gogledd ceir cyfres o draethau bychain. Traeth bychan, diarffordd yw Mwnt \u2013 safle sy\u2019n eiddo i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a lle da i wylio dolffiniaid. Mae pentrefi Aberporth, Tresaith a Llangrannog yn gartref i gymunedau bychain o bobl.<\/p>\n<p>Wrth ymyl Afon Teifi, i\u2019r de o\u2019r dref, mae cartref Canolfan Bywyd Gwyllt Gorllewin Cymru a llwybr troed yn cysylltu\u2019r ddau fan. Ardal eang o welyau cors yw\u2019r parc ac yma ceir nifer o guddfannau lle gallwch wylio amrywiaeth helaeth o adar a mamaliaid. Mae\u2019r afon yn gartref i ddyfrgwn a phan fydd y llanw\u2019n isel daw llwynogod i\u2019r fflatiau llaid weithiau i chwilio am sborion. Yn y berfeddwlad y tu hwnt i\u2019r parc, mae\u2019r afon yn llifo i geunant coediog, cul a gallwch ddilyn y llwybr troed sy\u2019n arwain ar hyd y ceunant bron yr holl ffordd i bentref Cilgerran. Yn y pentref, uwchlaw\u2019r ceunant, gwelir olion castell rhyfeddol sy\u2019n dyddio o\u2019r 12fed ganrif. Mae\u2019r pentrefwyr yn dal i ddefnyddio cwryglau i bysgota am eogiaid yn yr afon. Mae\u2019r llwybr yn ymestyn ar hyd glan yr afon o Gilgerran hyd at yr hen bont yn Llechryd lle gwelwch y ceunant yn ymagor yn orlifdir llydan.<\/p>\n<p>Tua 10 milltir i\u2019r de o Aberteifi mae Mynyddoedd y Preselau \u2013 cadwyn helaeth o rostir agored yn cyrraedd uchder o dros 500m \u2013 sy\u2019n enwog fel safle gwreiddiol y cerrig a ddefnyddiwyd i godi C\u00f4r y Cewri (<em>Stonehenge<\/em>). Mae rhwydwaith o lwybrau traed yn croesi\u2019r bryniau hyn.<\/p>\n<p>Mae Aberteifi a\u2019r ardal gyfan yn blethwaith o lonydd dwfn, caeedig sy\u2019n gyforiog o flodau gwyllt gyda rhwydwaith o lwybrau traed yn eu cysylltu. Fel y tystia nifer o feini hirion Neolithig (2500-1400 CC) sydd i\u2019w gweld ar draws gogledd Sir Benfro, y cestyll Normanaidd diweddar yn Aberteifi a Chilgerran a\u2019r abaty yn Llandudoch, mae i\u2019r ardal hanes cyfoethog. Yn ystod y 18fed a\u2019r 19eg ganrif, adeiladwyd nifer fawr o blastai yn rhan isaf dyffryn Teifi gan dirfeddianwyr cyfoethog, ac mae pobl yn dal i fyw mewn sawl un o\u2019r rhain ond prin yw\u2019r rhai a gadwodd eu statws gwreiddiol.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>TAITH GERDDED SAIN AM DDIM O AMGYLCH TREF ABERTEIFI Datgelu hanes cudd tref Aberteifi gyda theulu a ffrindiau ar daith gerdded sain. Mae&#8217;r daith gerdded sain am ddim hon a ddarperir gan Cardigan Walks yn cloddio i hanes cyfoethog Aberteifi o&#8217;i sefydlu yn 1110, gan rannu straeon tirnodau amlwg ledled y dref. Dros y daith, [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":600,"parent":791,"menu_order":7,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":25,"footnotes":""},"class_list":["post-604","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/604","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=604"}],"version-history":[{"count":7,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/604\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":3859,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/604\/revisions\/3859"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/791"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=604"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}