{"id":592,"date":"2019-02-27T00:00:29","date_gmt":"2019-02-27T00:00:29","guid":{"rendered":"http:\/\/dev2.visitcardigan.com\/beaches\/"},"modified":"2019-07-25T22:32:34","modified_gmt":"2019-07-25T21:32:34","slug":"traethau","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/crwydro\/traethau\/","title":{"rendered":"Traethau"},"content":{"rendered":"<p><a href=\"https:\/\/www.tidetimes.org.uk\/cardigan-town-tide-times\" target=\"_blank\" rel=\"noopener noreferrer\">Cardigan Tide Tables<\/a><\/p>\n<h3>Traethau o gwmpas AberteifiCwmtydu Traeth<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Cwmtydu-Beach-02.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1972\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Cwmtydu-Beach-02-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>Cwmtydu TraethMae Cwmtydu, a oedd unwaith yn gildraeth smyglwyr, yn gorwedd i\u2019r de orllewin o Gei Newydd. Traeth o raean bras yw hwn yn bennaf gydag ardal dywod sy\u2019n dod i\u2019r golwg pan fydd y llanw ar drai. O arfer gofal a pharch dyladwy, mae\u2019r cildraeth yn gymharol ddiogel ar gyfer gwahanol chwaraeon d\u0175r fel hwylfyrddio, syrffio, can\u0175io a hwylio. Gellir mynd \u00e2 ch\u0175n ar hyd y traeth drwy\u2019r flwyddyn. Mae\u2019r ardal yn enwog ymhlith y trigolion lleol fel lle da i weld dolffiniaid a morloi: ond os na fydd golwg o\u2019r creaduriaid hyn, wnaiff yr haul yn machlud mo\u2019ch siomi.<\/p>\n<h3>Traeth Llangrannog<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Llangrannog-Beach-01.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1974\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Llangrannog-Beach-01-750x422.jpg\" alt=\"Llangrannog-Beach-01\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>Traeth LlangrannogCeir golygfa fythgofiawy ar hyd yr arfordir o Langrannog ac mae yma ddau draeth tywodlyd \u2013 y prif draeth a thraeth cyfagos Cilborth [llun ar y brig] sy\u2019n gorwedd mewn cildraeth cuddiedig. Bu Llangrannog yn gyrchfan poblogaidd i drigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd ers cyn cof. Unwaith y byddwch wedi croesi llwybrau dyffryn serthochrog Afon Hawen, mae\u2019n hawdd mynd yn eich blaen. Mae yma faes parcio ar lan y m\u00f4r ac yn ystod misoedd yr haf ceir cyfleusterau parcio ychwanegol \u2013 taith 5 munud ar droed o\u2019r prif draeth. Mae\u2019r bae yn ddiogel ond rhaid bod yn ofalus wrth ymwneud ag unrhyw weithgaredd glan m\u00f4r.<\/p>\n<p>Does dim hawl mynd \u00e2 ch\u0175n ar y traeth o fis Mai hyd fis Medi ond gall gweddill y teulu fwynhau diwrnod i\u2019r brenin yn Llangrannog ac mae yma siop draeth a chaffi sy\u2019n llawn dop o nwyddau.<\/p>\n<h3>Traeth Penbryn<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Penbryn-Beach-01.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1976\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Penbryn-Beach-01-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>Traeth PenbrynMae angen cynllunio ymlaen llaw ar gyfer treulio diwrnod ym Mhenbryn ond does dim amheuaeth ei fod yn werth yr ymdrech ychwanegol. Mae\u2019r maes parcio a\u2019r cyfleusterau wedi\u2019u lleoli tua 400 metr o\u2019r traeth! Ond mae yna gylch troi a man gollwng teithwyr wrth ymyl y traeth. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy\u2019n berchen ar Benbryn. Mae\u2019r traeth, sydd bron filltir o hyd, yn gwbl ddigyffwrdd ac mae\u2019r tywod m\u00e2n, euraid a\u2019r d\u0175r bas yn ei wneud yn lle perffaith i blant. Gallwch fynd ati i archwilio dirgelion y pyllau trai neu mae yma sawl taith gerdded hyfryd i\u2019w cael \u2013 taith drwy goedwig o\u2019r maes parcio i\u2019r traeth neu mae modd cerdded i Dresaith pan fydd y llanw\u2019n isel. Mae\u2019r ardal gyfagos yn gyrchfan i adar arfordirol ac adar coetir tra bod y m\u00f4r yn gartref i Ddolffiniaid, Llamhidyddion a Morloi.<\/p>\n<h3>Traeth Tresaith<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Tresaith-Beach-02.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1978\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Tresaith-Beach-02-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>Traeth TresaithEnwyd Tresaith ar \u00f4l yr Afon Saith, sy\u2019n rhaeadru dros y clogwyni i draeth Tresaith. Mae\u2019r rhaeadr yn nodwedd arfordirol anarferol ac mae hynny\u2019n unig yn sicrhau bod Tresaith yn rhywle sy\u2019n rhaid ymweld ag e \u2013 ond mae llawer iawn mwy i\u2019r bae tywodlyd, cysgodol bychan hwn. Mae\u2019r traeth gl\u00e2n, melyn yn peri bod y lle yn boblogaidd gyda theuluoedd; mae\u2019n gymharol ddiogel i nofio yma a gall y rhaid sy\u2019n dwli ar y d\u0175r fwynhau\u2019r m\u00f4r a bod yn dawel eu meddwl bod Achubwr Bywyd ar ddyletswydd wrth law. Ar \u00f4l treulio diwrnod dioglyd ar y traeth, gall tafarn y \u2018Ship\u2019 baratoi gwydraid o rywbeth oer ar eich cyfer wrth i chi wylio\u2019r haul yn machlud yn ei holl ogoniant dros Fae Ceredigion. Mae mwy o fanylion ar gael yn \u2018The Good Beach Guide\u2019.<\/p>\n<h3>Traeth Aberporth<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Aberporth-Beach-02.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1980\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Aberporth-Beach-02-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>Traeth AberporthDyma fangre lle cewch chi\u2019r gorau o ddau fyd \u2013 traeth sydd wedi ennill gwobr baner las gyda safon y d\u0175r yn ardderchog, a lle i\u2019w fwynhau gyda\u2019ch ci! Mae Maes Parcio, toiledau a lluniaeth i gyd o fewn cyrraedd i\u2019r traeth. Caiff nofwyr a morwyr fel ei gilydd eu denu i Aberporth ac mae eu diogelwch yn saff yn nwylo\u2019r Achubwyr Bywyd. Dyma gyrchfan poblogaidd os hoffech fynd ar wibdaith diwrnod.<\/p>\n<h3>Traeth y Mwnt<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Mwnt-Beach-02.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1982\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Mwnt-Beach-02-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>MwntDyma i chi dlws arall yng nghist drysorau arfordir Bae Ceredigion! Mae pentir Mwnt, sy\u2019n edrych dros draeth tywod bychan, diarffordd, yn eiddo i\u2019r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Oherwydd natur y dirwedd, nid yw Mwnt yn lle hawdd ei gyrraedd. Does dim modd osgoi\u2019r llethr hir a serth a\u2019r grisiau sy\u2019n arwain i\u2019r traeth. Mae yma faes parcio mawr, ciosg sy\u2019n gwerthu lluniaeth a thoiledau. Heblaw am bleserau\u2019r traeth, gallwch fynd am nifer o deithiau cerdded byr ar hyd pen y graig. Oherwydd ei st\u00f4r o hanes, sy\u2019n cynnwys eglwys sy\u2019n dyddio o\u2019r bymthegfed ganrif, mae Mwnt, heb unrhyw amheuaeth, yn lle arbennig iawn. Adlewyrchir hyn yn ei statws Arfordir Gwyrdd (Green Coast). Golyga hyn bod yr ardal yn cael ei chydnabod am safon y d\u0175r heb yr angen am ddatblygu amhriodol fyddai\u2019n difetha harddwch naturiol y lle ac yn niweidio\u2019r bywyd gwyllt.<\/p>\n<h3>Traeth Poppit<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Poppit-Sands-Beach-04.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1984\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Poppit-Sands-Beach-04-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>Traeth PoppitPoppit, heb amheuaeth, yw un o draethau mwyaf poblogaidd yr ardal. Mae\u2019n llain fendigedig o dywod gyda thwyni tywod yn gefn iddi. Mae\u2019r ymwelwyr niferus sy\u2019n dod yma yn dwli ar y lle, a hynny am bob math o resymau. Er gwaethaf ei boblogrwydd, nid yw traeth Poppit fyth yn ymddangos yn orlawn. Ar un ochr i\u2019r traeth ceir gwaharddiad rhannol ar fynd \u00e2 ch\u0175n ar y traeth. Mae\u2019r caffi\u2019n brysur ar bob adeg, a hyd yn oed ar ddiwrnodau oer a thywyll y gaeaf mae\u2019r lle yn aml ar agor. Drws nesaf i brif orsaf y Bad Achub, fe welwch siop fach hynod ddiddorol sy\u2019n eiddo i\u2019r RNLI.<\/p>\n<p>Mae llanwau a cherhyntau anrhagweladwy Poppit yn gallu troi\u2019r hyn sy\u2019n ymddangos yn ddim mwy nag ardal arfordirol syml yn lle peryglus iawn ar adegau. Yn ffodus, ceir yma gyfleusterau Achubwyr Bywyd ardderchog; mae baneri rhybuddio\u2019n hofran a gallwch ofyn am gyngor os bydd angen. Mae traeth Poppit yn falch o\u2019i Faner Las.<\/p>\n<h3>Bae a Thraeth Ceibwr<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Ceibur-Beach-05.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1986\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Ceibur-Beach-05-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>CeibwrMae Ceibwr yn enwog am ei harddwch digyffwrdd. Cildraeth creigiog diarffordd sydd yma ac mae\u2019n lle cwbl gyfareddol. Traeth bychan iawn o garegos a chreigiau yw Ceibwr a bydd yn cael ei orchuddio\u2019n gyfan gwbl pan fydd y llanw i mewn. Nid yw\u2019n lle da i nofio ond dod yma i weld yr ogof\u00e2u a ffurfiant y graig ac i brofi\u2019r llonyddwch y bydd pobl. Mae Morloi Llwyd i\u2019w gweld yma\u2019n aml wrth ymyl y lan ac mae adar yr arfordir yn heidio yma yn eu cannoedd. Rhaid gyrru\u2019n ofalus ar hyd y ffyrdd sy\u2019n arwain i\u2019r traeth. Does dim cyfleusterau i\u2019w cael yma. Mae nifer y lleoedd parcio wrth ymyl y ffordd yn gyfyngedig.<\/p>\n<h3>Traeth Tywod Trefdraeth<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Newport-Sands-01.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1988\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Newport-Sands-01-750x393.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"393\" \/><\/a>\n<p>Traeth Tywod TrefdraethTraeth gwastad, tywodlyd gyda thwyni o\u2019i \u00f4l. Mae\u2019n hawdd cyrraedd yma. Mae\u2019r maes parcio yn eithaf helaeth ac yn ystod yr haf mae yma giosg sy\u2019n gwerthu lluniaeth. Caniateir c\u0175n ar y traeth, felly os byddwch chi\u2019n dod \u00e2\u2019ch \u2018ffrind gorau\u2019, cofiwch fod yn ystyriol o eraill, os gwelwch yn dda drwy wneud yr hyn sy\u2019n angenrheidiol! Mae\u2019r traeth yn lle diogel i nofio ac ar gyfer chwaraeon d\u0175r ac mae Achubwr Bywyd ar ddyletswydd rhwng 10 o\u2019r gloch y bore a 6 yr hwyr yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst. Er bod y traeth hwn, heb unrhyw amheuaeth, yn lle poblogaidd, nid yw\u2019r lle byth braidd yn mynd yn anghyfforddus o lawn..<\/p>\n<h3>Traeth Parrog, Trefdraeth (yngenir \u2018Tydrath\u2019)<\/h3>\n<a href=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Newport-Parrog-Beach-01.jpg\" rel=\"lightbox[592]\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"aligncenter size-large wp-image-1990\" src=\"https:\/\/www.visitcardigan.com\/wp-content\/uploads\/Newport-Parrog-Beach-01-750x422.jpg\" alt=\"\" width=\"750\" height=\"422\" \/><\/a>\n<p>Traeth ParrogAber Afon Nyfer yw\u2019r hyn sy\u2019n gwahanu traeth Parrog, Trefdraeth oddi wrth Draeth Tywod Trefdraeth. Mae\u2019r Aber ei hun yn gyrchfan poblogaidd i adar y m\u00f4r a rhydwyr. Cadwch eich llygaid ar agor am Grehyrod wrth y Bont Haearn. Mae Caffi\/Bwyty rhagorol \u2013 \u2018Morawelon\u2019 wrth ymyl traeth Parrog. Mae i\u2019r ardal hanes cyfoethog o adeiladu llongau ac mae ceisio darganfod tystiolaeth o orffennol y lle yn gallu bod yn weithgaredd difyr iawn. Dyma le ardderchog i fynd am dro ar hyd yr arfordir, gyda neu heb y ci. Nid yw\u2019r traeth yma mewn gwirionedd yn addas ar gyfer nofio oherwydd nad oes modd rhagweld y cerhyntau. Ceir toiledau a lle parcio digonol ar Draeth Parrog.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Cardigan Tide Tables Traethau o gwmpas AberteifiCwmtydu Traeth Cwmtydu TraethMae Cwmtydu, a oedd unwaith yn gildraeth smyglwyr, yn gorwedd i\u2019r de orllewin o Gei Newydd. Traeth o raean bras yw hwn yn bennaf gydag ardal dywod sy\u2019n dod i\u2019r golwg pan fydd y llanw ar drai. O arfer gofal a pharch dyladwy, mae\u2019r cildraeth yn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1972,"parent":791,"menu_order":6,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"_acf_changed":false,"iawp_total_views":35,"footnotes":""},"class_list":["post-592","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/592","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=592"}],"version-history":[{"count":6,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/592\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":594,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/592\/revisions\/594"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/791"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1972"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/www.visitcardigan.com\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=592"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}