Visit Cardigan

Bywyd Gwyllt

Bae Ceredigion: Ardal Gadwraeth Arbennig

Mae’r amrywiaeth nodedig o fywyd gwyllt a chynefinoedd ym Mae Ceredigion ac Afon Teifi yn eu gwneud yn amgylcheddau eithriadol a phwysig iawn yn rhyngwladol. O ganlyniad, cawsant eu dynodi yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig.

Beth yw Ardal Gadwraeth Arbennig (AGA)?

Mae AGA (SAC: Special Area of Conservation) yn enw statudol Ewropeaidd fydd yn gymorth i sicrhau bod yr ardal a’i bywyd gwyllt yn cael eu diogelu a’u gwarchod er lles a mwynhad y cenedlaethau sydd i ddod.

Aruthrol wyllt!

Er mai’r dolffiniaid trwynbwl efallai sy’n cael y sylw mwyaf, rhaid i ni beidio anghofio am y bywyd gwyllt a’r cynefinoedd cyfareddol sy’n rhan o’r bywyd amrywiol hwn ym Mae Ceredigion. Mae cynefinoedd creigresi, banciau tywod ac ogofeydd môr cyfareddol yn cynnal lliaws o rywogaethau, o’r mwyaf cyntefig o blith yr holl fertebratau byw, e.e. lamprai’r môr sy’n debyg i lysywen, i forloi llwyd gwryw nodedig yr Iwerydd sy’n tyfu hyd at 2.7m o hyd (9 troedfedd).