Visit Cardigan

Tirwedd Ddaearegol

Mae bryniau, dyffrynnoedd ac arfordir ardal Aberteifi yn arddangos amrywiaeth helaeth o nodweddion ffisegol sy’n datgelu ei hanes daearegol cymhleth.

Photo 1 Poppit Sands: alternation of sandstone and mudstone beds of late Ordovician (Caradoc) age. The sandstones are turbidites, laid down in deep water by gravity-driven density currents about 430 million years ago. Some of the sandstone beds are graded with a basal sections rich in coarse sand to gravel and locally mudstone clasts. The mudstones are cleaved and folded following the effects of the Caledonian Orogeny about 410 million years ago

Cerrig llaid, gafodd eu dyddodi mewn basn dwfn yn eigion y môr tua 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl, yw’r rhan fwyaf o greigiau’r ardal.  Mae cyswllt lleol rhwng y cerrig llaid â haenau o dywodfaen caled (tyrbiditau); yn Nhraeth Poppit (Cyf.Grid: 150489) mae’r haenau hyn hyd at fetr neu ddau o drwch, ond mewn mannau eraill gallant fod yn ddim mwy nag ychydig filimetrau o drwch.  Cafodd y creigiau hyn eu dyddodi fel mwd a thywod ar lawr y cefnfor ond fe’u claddwyd yn ddwfn dros amser a thua 140 miliwn o flynyddoedd yn ôl cawsant eu gwasgu a’u plygu gan symudiadau sylweddol yn y ddaear.  Trodd y cerrig llaid yn llechfeini yn sgil y digwyddiad hwn.

Y lle gorau i weld y creigiau plyg hyn yw ar hyd yr arfordir yn Ceibwr (109461) ac yn Nhraeth Poppit (147490).

Photo 2 – Cliffs on the north side of Ceibwr bay showing alternation of lighter grey sandstone beds and darker mudstone beds. The rocks are folded into a series of large folds and are locally faulted

Photo 3 – Poppit Sands: Folded Ordovician sandstones and mudstones. The softer mudstones are cleaved and have folded without fracturing. The harder sandstones have folded with a more angular form and are locally fractured

Yn sgil y plygu hwn, chwistrellodd hylifau drwy’r creigiau ac mae’r llwybrau a ddilynwyd gan yr hylifau hyn bellach wedi eu mewnlenwi’n lleol gan rwydwaith o wythiennau cwarts gwyn.

Photo 4 – Poppit Sands: quartz veins cutting through Ordovician cleaved mudstones. The quartz veins were formed when the deeply buried rock was permeated by and superheated fluids. On release of pressure quartz crystallised out of the fluids in tension cracks.

Photo 5 – Fossils are rare in the local rocks. Graptolites are used to date the rocks but these are poorly preserved. Animals that crawled along the ancient sea bed locally left tracks which are termed “trace fossils”. This example comes from Ordovician mudstones exposed on the beach north of Llangranog

Prin iawn yw’r ffosilau sydd i’w gweld yn y creigiau oherwydd bod y gwaddodion wedi’u dyddodi mewn dŵr dwfn.   Mae’r ychydig graptolitau (organebau rhydd-nofio sy’n edrych fel coesau pryfyn ac sydd tua’r un maint â’r rheiny) a ddarganfuwyd yn dangos bod y creigiau yn perthyn i’r System Ordoficaidd.  Yn y 19eg ganrif, roedd nifer o chwareli llechi yng ngheunant Afon Teifi, rhwng y Ganolfan Bywyd Gwyllt (191449) a Chilgerran (206430).  Câi’r llechfaen ei thorri’n slabiau, yn hytrach nag yn llechi toi, ac roedd y rhain yn cael eu defnyddio i wneud cafnau, lloriau a llefydd tân.  Dympiwyd rhywfaint o’r gwastraff o’r gwaith llechi yn yr afon a newidiodd hyn batrwm ei llif gan arwain at lifogydd mawr i fyny’r afon a siltio i lawr yr afon.

Ni cheir unrhyw dystiolaeth o greigiau sy’n iau na’r cyfnod Ordoficaidd yn ardal Aberteifi, er bod cryn dipyn o Fae Ceredigion wedi ei fewnlenwi gan olyniaeth drwchus o greigiau Jwrasig, tebyg i’r rhai yn ne Lloegr.  Mae’r creigiau hyn yn cyrraedd bron hyd at wely’r môr o fewn 5 cilometr i’r gogledd orllewin o Benrhyn Cemaes (131502).

Adnewidiwyd tirwedd ardal Aberteifi gan Oes yr Iâ.  Rhyw ddau gan mil o flynyddoedd yn ôl, gorchuddiwyd yr ardal gan y llen cyntaf o iâ.  Dinistriwyd y rhan fwyaf o’r dystiolaeth dros y digwyddiad hwn gan y llen iâ diwethaf i ymestyn dros yr ardal a gyrhaeddodd ei stent mwyaf rhyw 18 000 o flynyddoedd yn ôl.  Ar y tir, roedd ffin ddeheuol y llen iâ hwn yn gorwedd i’r de o Aberteifi, yn agos i gopa Mynyddoedd y Preselau, ond roedd yn llifo ymhellach i’r de yn Sianel San Siôr.  Crëwyd nifer o arweddion gan y prosesau oedd yn gysylltiedig â’r llen iâ:

Photo 6 – View looking east from Carn Bica on the crest of the Preseli hills. The crags on the right are Carn Menyn, the site of the stones used to construct Stonehenge. Foeldrygarn, a hill fort, is on the left in the distance.

Photo 7 – Close up of Carn Menyn. Many of these jointed blocks of dolerite were transported to Salisbury Plain and used to construct Stonehenge. There is still a debate whether man or glacial processes transported the blocks.

Photo 8 (right) – River Teifi flowing through the gorge at Cilgerran with the castle overlooking the gorge side. The lower course of the River Teifi flows through some narrow gorge sections followed by wider, more open valleys.

Cyn Oes yr Iâ, llifai Afon Teifi ar hyd dyffryn llydan, dolennog, tebyg i’r hyn sydd i’w weld heddiw rhwng Llechryd a Chenarth.

Gynt, pan oedd iâ yn gorchuddio’r ardal, torrodd yr afon ar draws rhai o’r dolennau gan endorri dyffryn cul, tebyg i geunant, fel sydd i’w weld heddiw rhwng Llechryd a’r Ganolfan Bywyd Gwyllt.

Bellach, mae’r hen ddolennau a dorrwyd i ffwrdd wedi eu mewnlenwi ond gellir eu gweld (i’r de o’r Ganolfan Bywyd Gwyllt) drwy edrych yn ofalus ar fapiau ac ar y dirwedd.


Photo 9 – Looking south from the Cardigan Wildlife park one can see the steep sides of the gorge in which the river flows

Photo 10 – Looking from the same viewpoint as Photo 9 but looking slightly to the west one can see the sloping sides of the older course of the river. This old river course is now infilled by up to 50m of sediment laid down before the last ice sheet covered the valley.

Photo 11 – Looking northwest from Trwyn Carreg-ddu (Poppit Sands) at the section of coast where a raised beach is exposed.


Photo 12 – Raised beach along the coast shown in Photo 11. The beach is cut a metre or two above high water mark, and is overlain by boulder clay deposited about 18 000 years ago during the last ice age.
Cyfordraeth ychydig fetrau uwchlaw’r marc penllanw i’r gorllewin o Draeth Poppit (147489).  Crëwyd y traeth hwn gan arwaith y tonnau tua 125 000 o flynyddoedd yn ôl ac mae wedi’i orchuddio gan glogfeini llyfngrwn gafodd eu herydu gan y tonnau ac sydd, yn eu tro, wedi’u gorchuddio gan glog-glai cyfoethog, gludiog a ddyddodwyd yn ystod yr oes iâ ddiwethaf.

Photo 13 – Close up of the raised beach. The folded Ordovician mudstone are truncated by a smooth horizontal surface on which lies a boulder-rich beach deposit. Boulder clay overlies the beach deposit. The raised beach was probably cut during a sea level high stand some 125,000 years ago.

Photo 14 – Boulder clay deposited during the last ice age about 18 000 years ago infills the coastal valley at Mwnt.

Photo 15 – Close up of boulder clay at beach level at Mwnt. The clay is full of clasts ranging in size from sand to boulder grade. Some of these clasts have been transported within the ice sheet from the floor of the Irish Sea, North Wales and Southern Scotland. These glacial erratics are common on the beaches of the area and include a range of igneous and sedimentary rocks.

Tmae’r clai hwn, a ddyddodwyd rhwng tua 18 000 a 15 000 o flynyddoedd yn ôl, yn cynnwys llawer o glogfeini a charegos o Ogledd Cymru a de orllewin yr Alban (meini crwydr rhewlifol) gafodd eu cludo tua’r de yn yr iâ.

Photo 16 – Erratic boulder of quartzite – probably from North Wales – resting on mudstones, at Poppit

Photo 17 – Pebble of Jurassic ironstone- probably from the floor of Cardigan Bay- picked from the beach at patch.

Photo 18 – Sand pit west of Penparc, part of a sand unit that extends southwards to also include Banc-y-Waren. This sand body and that at Monington were laid down by deltas in an extensive lake during the early stages of the retreat of the last ice sheet about 18 to 15 000 years ago late.

Y twyni tywod helaeth sy’n ffurfio Banc-y-Warren (204475) a’r chwareli i’r gogledd.  Cafodd y rhain eu dyddodi gan afon oedd yn llifo allan o’r llen iâ diwethaf wrth i hwnnw doddi.  Mae lleoliad presennol y dyddodion hyn yn dangos bod rhaid bod y llen iâ hwn wedi bod yn gannoedd o fetrau o drwch a’i fod yn ymestyn ar draws y dirwedd gyfan.  Mae dyddodion tebyg i’w gweld yn Trefigin (132434).
Dyffrynnoedd lleol tebyg i geunant (Cwm Degwel, Llandudoch – 162453) a sianelau a endorrwyd gan ddŵr tawdd yn llifo islaw’r llen iâ.

Unwaith yr enciliodd y llen iâ, roedd y dirwedd ddiffrwyth yn agored i wyntoedd cryfion a chwythwyd tywod i gopa Towyn Warren (168 490) yn Gwbert, i’r de o Glwb Golff Aberteifi

 

Photo 19 – View looking north from above the Webley Hotel at the Pen yr Ergyd spit that occupies the mouth of the Teifi estuary. The spit is fed by the gravel on the foreshore on its seaward side. Waved blowing from the north move the gravel from the foreshore onto the spit with is slowly extending southwards and forcing the river channel towards the western (near) shore. A sailing vessel is stranded on the outer beach, having missed the river channel on its journey to sea.

Mae’r dirwedd yn yr aber yn dal i newid.  Mae’r tafod (spit) ym Mhen yr Ergyd (160486) yn ymledu gan achosi erydiad ar lan de orllewinol yr afon, ac mae’r twyni tywod yn ardal orllewinol Poppit wedi ymledu cryn dipyn yn ystod y ddau ddegawd diwetha’.